Llety Aur yn Gogledd Dwyrain Cymru

Ydych chi eisiau aros mewn llety sydd wedi derbyn canmoliaeth a gwobr uchel yng Ngogledd Ddwyrain Cymru? Does dim angen i chi edrych ymhellach na’r llety gwych sydd wedi derbyn Gwobr Aur gan Croeso Cymru.  O dai llety i hen gastell wedi ei leoli o fewn tref farchnad, mae’r lleoliadau prydferth hyn yn fannau sefydlog gwych […]

Ydych chi eisiau aros mewn llety sydd wedi derbyn canmoliaeth a gwobr uchel yng Ngogledd Ddwyrain Cymru? Does dim angen i chi edrych ymhellach na’r llety gwych sydd wedi derbyn Gwobr Aur gan Croeso Cymru.  O dai llety i hen gastell wedi ei leoli o fewn tref farchnad, mae’r lleoliadau prydferth hyn yn fannau sefydlog gwych i chi grwydro Gogledd Ddwyrain Cymru, y gweithgareddau a llwybrau cerdded yr ardal.

 

Tŷ Llety Tan yr Onnen, Llanelwy

Tan yr Onnen, St Asaph
Tan yr Onnen, Llanelwy

Cewch groeso cynnes yn y Tŷ Llety teuluol. Wedi’i leoli yng nghalon Gogledd Cymru yn Nyffryn Clwyd, mae holl atyniadau’r ardal o fewn tafliad carreg. Mae ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi moethus gyda chobanau clyd a’r holl fân gyffyrddiadau sy’n gwneud eich arhosiad yn un arbennig. Bydd brecwast swmpus o gynnyrch lleol gyda bara wedi’i bobi’n ffres yn eich paratoi am y diwrnod o’ch blaenau. Gyda chyfleusterau gwych ar gyfer plant, anifeiliaid anwes ac ymwelwyr anabl, gall y teulu cyfan fwynhau’r tŷ llety yng nghalon Bryniau Clwyd.

 

Gwesty a Sba Castell Rhuthun, Rhuthun

Ruthin Castle Hotel and Spa, Ruthin
Ruthin Castle Hotel and Spa, Ruthin

Gwesty rhamantus prydferth – wedi ei adeiladu’n wreiddiol gan Edward I ym 1282 – mae Castell Rhuthun wedi ei leoli o fewn aceri o barcdir gyda bwyd cain, sba nodedig a lleoliadau unigryw ar gyfer priodasau, dathliadau, cynadledda a digwyddiadau. Yn y sba, sydd ger coetir gwledig ffos wreiddiol y Castell, gallwch anghofio am boenau’r byd gyda thriniaethau a chlwb iechyd i’ch helpu i ymlacio’r meddwl ac adfywio’r ysbryd.  Mae Castell Rhuthun yn drysor i chi ei ganfod.

 

Plasty Wrddymbre, Wrecsam

Worthenby Manor, Wrexham
Worthenby Manor, Wrexham

Beth am wyliau gwahanol i’r arfer? Dyma le arbennig i aros, ac mae’n un o ‘Oreuon Prydain’, sy’n darparu profiad plasty gwledig dilys a llety Gwely a Brecwast moethus 5*. Mae wedi ei amgylchynu gan goed gan ei wneud yn lle perffaith ar gyfer dianc neu wyliau rhamantus cysurus. Mae gan westeion eu mynedfa eu hunain ac ystafell fyw gyda soffas cyfforddus, cylchgronau lleol a llyfrau i’w darllen wrth y tân yn y gaeaf. Hefyd, mae gardd wyllt i ymlacio ynddi a mwynhau gwydraid o win yn yr haf. Mae’n amlwg pam bod y llety hwn wedi derbyn gwobr aur gan Croeso Cymru.

 

Cornerstones, Llangollen

Cornerstones, Llangollen
Cornerstones, Llangollen

Mae’r tŷ llety o’r unfed ganrif ar bymtheg sydd wedi’i adnewyddu’n hyfryd, yn eistedd ochr yn ochr ar lannau’r afon Dyfrdwy yng nghanol tref marchnad Llangollen. Mae gan y tair ystafell wely eu hapêl unigryw eu hunain gyda phum seren aur foethus gan fwrdd Twristiaeth Cymru. Gallwch archebu’r tair ystafell gyda’i gilydd, gan greu naws gartrefol ar gyfer achlysuron arbennig. Mae’r holl ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n hardd ac yn cynnwys teledu 32 modfedd gyda chwaraewr dvd, ac mae ystod o dvds ar gael hefyd. Mae gan bob ystafell oergell gyda llefrith ffres ac amrywiaeth o de a choffi, cacen, bisgedi a dŵr Cymreig. Wedi ei leoli yn nhref Llangollen, mae’n fan gwych ar gyfer crwydro Dyffryn Dyfrdwy a thu hwnt.

 

Tyddyn Llan, Llandrillo

Tyddyn Llan, Llandrillo
Tyddyn Llan, Llandrillo

Mae Tyddyn Llan yn cynnig y cysur o westy moethus, gyda chyfeillgarwch teuluol. Ni ystyrir ef yn westy, ond yn hytrach bwyty gydag ystafelloedd… tair ar ddeg ystafell braf, yn edrych allan am y bryniau. Gyda phrofiad bwyta seren Michelin, rydych yn sicr mewn llety o safon uchel. Gyda chyfleusterau ar gyfer plant, anifeiliaid anwes ac ymwelwyr anabl, gall eich taith nesaf i Ogledd Ddwyrain Cymru gynnwys y teulu cyfan.