‘Beth wnawn ni hefo’r plant?’ Mae’n gwestiwn sydd wedi cael ei ofyn gymaint o weithiau! Wel, dyma ambell syniad i chi am weithgareddau i’w gwneud efo’r plant yn y rhan hon o Ogledd Cymru.
Peidiwch â phoeni, rydyn ni’n siŵr o ddod o hyd i weithgaredd i bawb!
Mynd ar y beics
A oes gennych chi feicwyr mynydd brwd? Wel, Gogledd-orllewin Cymru ydi’r lle i chi. O drac drwy gors arfordirol hyd at gwrs beicio mynydd llawn antur drwy’r goedwig yn Llandegla, cewch ddiwrnod gwych wrth wneud ‘chydig o ymarfer corff.
Mae’r cwrs beicio antur yn One Planet Adventure yn rhywbeth mae’n rhaid i bob beiciwr mynydd ei wneud. Gyda llwybrau llawn cyffro i rai o bob oed a gallu, rydyn ni’n yn gwybod y bydd pawb wrth eu boddau wrth wibio drwy’r goedwig. Hyd yn oed os nad oes gennych chi feic mynydd, gallwch logi un yn y ganolfan.
Gall beicwyr BMX brofi eu sgiliau yn Marsh Tracks yn nhref arfordirol y Rhyl. Gyda thrac beicio ffordd caeëdig 1.3 cilomedr o hyd sydd wedi ennill gwobrau a thrac rasio BMX o safon genedlaethol gyda giât gychwyn Bensink (yn union fel trac BMX Gemau Olympaidd 2012) a neidiau a thwmpathau heriol. Yn ogystal â’r ddau drac hyn, mae trydydd trac beicio mynydd newydd sbon wedi agor yn ddiweddar er mwyn i chi brofi eich sgiliau!
Sblash a sbri
Mae Gogledd Cymru’n wlad o antur a pha ffordd well o brofi’r antur hwnnw na thrwy weithgaredd dŵr llawn adrenalin.
Beth am fynd ar daith i Langollen i brofi nerth Afon Dyfrdwy sy’n hollti’r dref? Gyda chymaint o weithgareddau i’w gwneud yn yr ardal, fe fydd gennych ddigonedd o ddewis a digon o ddarparwyr yn yr ardal hefyd. Gallwch fod yn siŵr y bydd gweithgaredd i gyflymu’r gwaed yn eich disgwyl chi y tro nesaf y byddwch ar wyliau yng Ngogledd Cymru.
Gweithgareddau fel cerdded drwy geunentydd, rafftio dŵr gwyn a phadlfyrddio ar hyd y gamlas – fe gewch hyd i’r gweithgaredd perffaith i chi.
Gweld ein hanifeiliaid
Am ddod i wybod mwy am y môr a’i greaduriaid? Beth am ymweld â SeaQuarium y Rhyl? Mae mewn lleoliad agored ger y môr ar arfordir hardd Gogledd Cymru. Mae yno rywogaethau o bob cwr o’r byd i’w gweld mewn 9 ardal wahanol, a childraeth y morloi lle gallwch gyfarfod ein morloi harbwr direidus. Mae’r arddangosfa arbennig hon yn rhoi golwg o dan y dŵr i chi o’n morloi yn eu pwll sy’n dal 33,000 o alwyni o ddŵr.
I weld anifeiliaid fferm (tu hwnt o ddel), gallwch ymweld â Pharc Anifeiliaid Greenacres yng Nglannau Dyfrdwy. Mae cymaint i’w weld a’i wneud, fel cyfarfod yr holl anifeiliaid dof, anifeiliaid y sŵ ac anifeiliaid fferm, rhoi mwythau yng nghornel yr anifeiliaid anwes a mwynhau reidiau’r ffair, y sgubor chwarae ac atyniadau eraill drwy gydol y flwyddyn.
Mynd ar Ras
Ydi’r Lewis Hamilton nesaf gennych chi? Y ffordd i brofi hyn ydi eu gollwng yn rhydd ar y trac.
Mae trac gwibgertio awyr agored cwrs Glan y Gors mewn lleoliad anhygoel wrth droed Mynydd Hiraethog. Mae’n drac poblogaidd iawn ymysg dechreuwyr a gyrwyr proffesiynol a dyma’r diwrnod allan gorau i grŵp o blant sy’n hoffi mynd ar ras. Gyda gwahanol fathau o rasys i chi eu harchebu ar gyfer eich grŵp, gallwch ei wneud yn ddiwrnod o gystadlu neu’n brofiad gyrru mwy hamddenol i wella eu sgiliau.
Beth am brofi eu sgiliau yn un o’r canolfannau gwibgertio dan do sydd wedi bod ar agor am y cyfnod hiraf yn Ewrop? Yn Apex Kart yng Nglannau Dyfrdwy, cewch wefr unigryw iawn wrth wibio o amgylch y troeon tynn neu basio’ch ffrindiau ar y trac. Dyma’r gweithgaredd perffaith i barti grŵp o blant neu am ddiwrnod i’r teulu yng Ngogledd Cymru.
Am y dre’
Mae Wrecsam yn dref llawn cyffro gyda digonedd o weithgareddau i chi gael diwrnod wrth eich bodd.
Gallwch daro deg yn Tenpin Bowling ym mharc manwerthu hyfryd Dôl yr Eryrod lle gallwch hefyd siopa am rywbeth bach i chi’ch hun fel gwobr am drefnu diwrnod mor arbennig. Neu, tra byddwch chi ym mharc Dôl yr Eryrod, gallwch wylio ffilm yn sinema Odeon… mae bocs o bopgorn a ffilm dda’n ddiweddglo perffaith i ddiwrnod allan gwych.
Os oes gennych chi wyddonwyr yn y criw, yna’r lle gorau i chi fynd iddo ydi Techinquest Glyndŵr. Fel canolfan orau Gogledd Cymru i ddarganfod gwyddoniaeth, hwn ydi’r lle gorau i syfrdanu eich plant gyda thros 65 o arddangosfeydd, gemau a phosau ymarferol.