Mae Cymru yn enwog am y bwyd sydd ganddi i’w gynnig i’r byd. Yn ein rhan ni o Ogledd Ddwyrain Cymru mae rhai llefydd anhygoel i chi fwyta a gwledda wrth i chi deithio drwy ein cornel ni o Ogledd Cymru. O fwyd môr i fwyd ar gyfer yr holl deulu, mae ein hardal yn cynnig rhywbeth i bawb.

 

Tyddyn Llan, Corwen

Tyddyn Llan, Corwen
Tyddyn Llan, Corwen

Mae Tyddyn Llan yn cael ei ystyried fel un o’r tai bwyta gorau yng Nghymru gyda gradd uchel yn Good Food Guide, a Good Hotel Guide, a Seren Michelin (ers 2010) ac yn gyn Fwyty ‘Gwir Flas Gogledd Cymru’ y Flwyddyn. Defnyddir cynnyrch Cymreig gymaint ag sy’n bosib ond mae’r fwydlen yn gofyn am gynnyrch o du allan i’r wlad hefyd yn gregyn bylchog wedi’u casglu gan ddeifar yn yr Alban, llysywen mwg o Wlad yr Haf, Mozzarella Byfflo o Napoli, cyw iâr Fferm Wyndham. Tyddyn Llan yw’r profiad bwyta gwych yr ydym i gyd yn ysu amdano o bryd i’w gilydd ac mae’r cyfan i’w gael yn ardal brydferth Dyffryn Dyfrdwy lle gellir mynd am dro ar ôl eich pryd bwyd i losgi dipyn o galorïau.

 

1891, Y Rhyl

1891 Restaurant, Rhyl
1891 Restaurant, Rhyl

Bwyty first floor restaurant a bar modern a chwaethus ar lawr cyntaf Theatr y Pafiliwn y Rhyl. Lleolir bwyty a bar 1891 ar lawr cyntaf Theatr Pafiliwn Y Rhyl, sydd â golygfeydd hyfryd o arfordir Gogledd Cymru, ar draws i Eryri a thu hwnt. Maent yn cynnig cymysgedd o fwyd eithriadol a lleol a gwasanaeth gwych – i gyd yn ein bwyty a bar newydd cyfforddus, cyfoes a thrwsiadus. Os ydych eisiau diod i ymlacio, swper hir, swper cyn y theatr neu ginio sydyn, mae gan 1891 rywbeth i bawb.

 

The Royal Oak, Bangor-Is-y-Coed

The Royal Oak, Bangor on Dee
The Royal Oak, Bangor on Dee

Wedi’i lleoli ar lan yr Afon Dyfrdwy ym mhentref prydferth Bangor-Is-y-Coed, Gogledd Cymru, mae the Royal Oak yn cynnig bwyd o ansawdd rhagorol ac yn ymfalchïo yn ei lleoliad unigryw ar lan yr afon gyda chroeso cynnes a chyfeillgar, y cyfan ychydig yn fwy arbennig na’r tafarn pentref arferol. Mae tu mewn yr adeilad yn siriol a chyfoes gyda chadeiriau cyfforddus a thannau agored yn ogystal â digonedd o le i bobl fwyta. Tu allan mae teras gyda golygfa ddelfrydol ar ddiwrnod braf lle gallwch fwynhau pryd o fwyd, coffi, gwydriad o win a gwrando ar y crychdonnau yn y dŵr a gwylio’r byd yn mynd heibio.

The Druid Inn, Yr Wyddgrug

Druid Inn, Mold
Druid Inn, Mold

Yng nghanol Pontblyddyn ger yr Wyddgrug mae Druid Inn sy’n dafarn glyd a chyfforddus gyda bwyd da ac awyrgylch hyfryd. Mae’n gyfuniad o dafarn hen ffasiwn gyda’r bwyd mwyaf modern sydd gan Brydain i’w gynnig. Mae cynhesrwydd y coed tu mewn yn cyd-fynd â’r croeso cynnes y byddwch yn ei gael gan y staff. Heb anghofio’r bwyd, yn brydau arferol o ddydd i ddydd i Ginio Sul ar gael bob dydd Sul byddwch yn siŵr o adael yn llawn dop heb yr angen i fwyta am sbel ar ôl bod yn Druid Inn.

 

The Fat Boar, Yr Wyddgrug

The Fat Boar, Mold
The Fat Boar, Mold

Bwyd blasus, gyda bwydlen fawr yn cynnwys llawer o gynhwysion ffres, tymhorol ac i’w cael yn lleol yn The Fat Boar. Gyda dewis gwych o gwrw a gwin mae rhywbeth i’w gael at ddant pawb, p’un ai eich bod yn arbenigwr neu eisiau gwydriad i dorri syched ar ôl diwrnod hir. Gyda gwasanaeth na ellir ei herio na’i drechu. Yn achlysurol ceir cerddoriaeth fyw gan unigolion talentog yr ardal gan ychwanegu mwy fyth at yr awyrgylch.