Mae Grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd wedi cynrychioli gwneuthurwyr bwyd a diod bach ac annibynnol a’r sector lletygarwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ers dros 10 mlynedd.

Mae aelodau’r Grŵp yn ymroddedig i dynnu sylw at y cynhyrchwyr, manwerthwyr, caffis a bwytai gwych sydd yn yr ardal. Yn 2020 yn arbennig, bu cynnydd nodedig mewn diddordeb gan gwsmeriaid i ddarganfod pa unai ydi’r bwyd a diod yn gynnyrch lleol neu os oes cynnyrch lleol ar y fwydlen.

Y peth da am y gystadleuaeth yma yw ei fod yn arddangos y cynnyrch, mae’n darparu talebau i ymweld â lleoliadau a gall cwsmeriaid weld nad yw’r holl waith caled yn ystod argyfwng Covid19 i barhau ac i gadw’n lleol wedi bod yn ofer.

Cliciwch yma i roi cynnig arni