Yn dilyn blog yr wythnos diwethaf am ben-blwydd Clawdd Offa yn 50 oed, roeddem yn meddwl y byddai’n dda tynnu sylw at rai o’r llwybrau cerdded byrrach yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gan mai dim ond ar hyn o bryd y mae’r cyfyngiadau presennol yn caniatáu cerdded o gartref.
Nid oes rhaid i gerdded i gyd ymwneud â heriau pellter hir – teithiau cerdded byr a fydd ond yn cymryd rhyw awr neu ddwy weithiau yw’r cyfan sydd ei angen arnom i godi ein gobeithion a helpu i wella ein lles. Mae’r teithiau cerdded hyn yn aml yn cysylltu cymunedau ac yn archwilio rhai o’n lleoedd mwyaf arbennig. Mae cyfres Teithiau Cerdded Gwledig Sir Ddinbych yn cyflwyno’r gorau o gerdded yn ein hardal wledig mewn un llyfryn gydag amrywiaeth o deithiau cerdded i ddewis ohonynt – o’r byr ac yn hawdd iawn i’r rhai mwy egnïol. Mae ein cyfres Milltiroedd Cymunedol yn cysylltu pentrefi a mannau eraill o ddiddordeb.
Mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn ardal mor hardd ac nid yw hyn byth yn fwy amlwg nag wrth ei archwilio ar droed gan fod ganddi ychydig o bopeth mynyddoedd a faledi, coetiroedd, glanyrnon, arfordir ac mae’n llawn hanes.
Cofiwch, gyda’r cyfyngiadau presennol ar waith, dim ond o fewn pellter cerdded i’r cartref y caniateir i ni wneud ymarfer corff a pharchwch y Cod Cefn Gwlad.
Dyma ein cyfres o Deithiau Cerdded Cymunedol cliciwch ar y teitlau i lawrlwytho pob taith gerdded er mwyn i chi allu argraffu a mwynhau.
Llwybr Tyrnog
Taith gerdded gylchol hyfryd 4.3 milltir o amgylch pentref Llandyrnog, sy’n cynnwys rhan o Ddyffryn Clwyd nas chwiliwyd fawr gan neb.
Clywedog Clwyd
Taith gerdded gylchol 4.7 milltir o amgylch pentrefannau atyniadol Llanynys a Rhewl sy’n cynnwys rhan o Ddyffryn Clwyd nas chwiliwyd fawr gan neb.
DINBYCH
Dewis o deithiau gerdded gylchol o amgylch dref canoloesol Dinbych, sy’n cynnwys y dref a’r cefn gwlad cyfagos.
Tremeirchion
Taith gylchol o Dremeirchion sy’n cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa gyda phanoramâu eang o Ddyffryn Clwyd.
Llwybr Bryn Heulog
Llwybr syfrandol 4.5 milltir o Langollen sy’n dringo’n ddigon uchel i roi golygfeydd gwych o Ddyffryn Llangollen, yn ogystal â mwynhau heddwch y gamlas.
Graigfechan
A circular walk from the village of Graigfechan, which links to Offa’s Dyke Path National Trail and takes in views of the Vale of Clwyd and beyond.
Llangynhafal and Hendrerwydd
Dewis o gylchdeithiau diddorol, sydd yn cynnwys Dyffryn Clwyd, Parc Gwledig Moel Famau a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae’r llwybrau’n mynd heibio nifer o nodweddion hanesyddol, gan gynnwys wyth ffermdy gwag, ffynnon sanctaidd hudol a’r eglwys trawiadol Sant Cynhafal.
Ceidiog Walk
Taith gylchol 2.5 milltir o hyd yng nghefn gwlad hardd ardal Llandrillo.
Yr Hen Rheilffordd
Mwynhewch tro hamddenol yn Nyffryn Dyfrdwy, ar hyd yr hen rheilffordd a’r gamlas ger Traphont Ddwr gwefreiddiol Pontcysyllte.
Henllan
Cylchdaith cerdded 4.2 milltir o bentref Henllan.
Yn swatio mewn dyffryn i’r gogledd orllewin o Ddinbych, mae Henllan wedi ei ddynodi yn ardal cadwraeth oherwydd ei ffyrdd cul gyda rhesi o dai yn agor yn syth allan âi’r ffordd.