Nawr yn ddigwyddiad sefydledig yn y calendr, bydd Dinbych yn agor ei ddrysau eto eleni rhwng 27 – 29 Medi, gan gynnig llawer o adeiladau, teithiau, arddangosfeydd a sgyrsiau i bawb eu mwynhau. Pob un AM DDIM!
Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i edrych o fewn adeiladau megis Castell Dinbych, 2 Sgwâr y Goron, Neuadd Seiri Maen Dinbych yn ogystal â Gardd Beatrix Potter yn Gwaenynog. Mae adeiladau sy’n agored eleni am y tro cyntaf neu sy’n cynnwys elfennau newydd yn cynnwys Capel Pendref sydd wedi cael buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar, a Chanolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.
Ar gael yn ystod y penwythnos mae teithiau o Ddinbych Ganoloesol, taith Daeareg, taith o amgylch Coleg Myddelton a theithiau yn canolbwyntio ar Lôn Pendref a Stryd y Dyffryn. Mae gofyn cadw lle o flaen llaw drwy gysylltu â Llyfrgell Dinbych a gan fod y mwyafrif o’r teithiau yn gyfyngedig i 25 o bobl, dylid archebu lle cyn gynted ag y bo modd er mwyn osgoi cael eich siomi.
Mae’r penwythnos yn cychwyn gyda sgwrs nos Wener am 7pm yn Theatr Twm o’r Nant gan Shaun Evans o Brifysgol Bangor a’r Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru dan y teitl “Pwerdy Dadeni Cymru: Dyffryn Clwyd c 1500-1650.” Bydd lluniaeth ar gael. Mae angen archebu lle ar gyfer hwn hefyd trwy Lyfrgell Dinbych.
Am ragor o wybodaeth am hyn oll:
• ewch i www.visitdenbigh.co.uk/discover-denbigh/things-to-do/doors 2
• ffoniwch Llyfrgell Dinbych ar 01745 816313
• E-bostiwch denbighopendoors@gmail.com neu denbigh.library@denbighshire.gov.uk
• Galwch i unrhyw un o lyfrgelloedd Sir Ddinbych i godi llyfryn.
• Ewch i Facebook https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
• Dilynwch nhw ar Twitter https://twitter.com/OpenDoors_D
• Lawrlwythwch y llyfryn o’r dudalen Facebook
Mae parcio AM DDIM ym meysydd parcio’r dref drwy’r dydd ddydd Sadwrn 28 Medi a gellir defnyddio’r maes parcio yn swyddfeydd y Cyngor ar Ffordd y Ffair heb unrhyw gost.
Sylwch hefyd fod cyfle i ymweld â Dolbelydr, rhwng Henllan a Threfnant, rhwng 20-24 Medi. Cyfle i weld cartref Henry Salesbury a oedd yn gyfrifol am gyhoeddi’r Grammatica Britannica, o 20-24 Medi.