Tra ydym yn dod i arfer â thywyllwch Ionawr mewn cyfnod clo arall, mae’n debyg ein bod ni i gyd yn gobeithio y bydd y misoedd o’n blaenau’n gwella ac y bydd 2021 yn well na 202fallai eich bod yn breuddwydio am gael gweld eich anwyliaid pan fynnwch chi, llenwi’ch dyddiadur ag ymweliadau i wahanol lefydd, neu am gael mynd allan i fwyta, ond tan y cawn ni wneud hynny’n ddiogel, beth am ganolbwyntio ar wynebu un dydd ar y tro?

 

Dyma rai cynghorion i’ch helpu i fframio’ch diwrnod gartref.

 

Mae llawer ohonom yn gweithio o gartref ar hyn o bryd, a chan nad ydym yn cymudo efallai fod gennym fwy o amser rhydd. Fodd bynnag, gydag addysgu o gartref a llai o derfynau, gall gweithio o gartref ein blino ni’n lân. Ceisiwch ddeffro hanner awr yn gynharach, cyn i neb arall godi, fel y gallwch gymryd ychydig o amser i grynhoi’ch meddyliau a gwneud rhestr o bethau i’w gwneud yn eich meddwl cyn i’r gwallgofrwydd ddechrau. Ystyriwch a yw hyn yn eich gosod ar y trywydd cywir ar gyfer gweddill y diwrnod.

 

Ewch am dro hanner awr yn ystod y dydd. Gadewch eich ffôn gartref a sylwch ar yr hyn sydd i’w weld a’i glywed o’ch cwmpas.  Wyddoch chi fod rhai meddygon yn galw hyn yn bresgripsiwn gwyrdd, ac yn ei ystyried yn ffordd o liniaru straen a phryder? Os ydych yn ddigon lwcus i fyw yng ngogledd-ddwyrain Cymru, nid ydych byth yn bell o fannau gwyrdd. Cofiwch mai dim ond o fewn pellter cerdded i’ch cartref y dylech wneud ymarfer corff yn ystod y cyfyngiadau presennol, er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Rhowch gynnig ar ymarferion anadlu dyddiol.  Gallwch ddod o hyd i bob math o ganllawiau ar-lein ac apiau i siwtio sut rydych yn teimlo ar y pryd.  ‘Square Breath’ yw ein hoff un ni ar hyn o bryd. Hynny yw, dychmygu creu ochrau sgwâr yn eich meddwl. Dechreuwch drwy anadlu i mewn drwy’ch trwyn gan gyfri i bedwar wrth ichi lunio un ochr o’r sgwâr yn eich meddwl. Yna, cyfrwch i bedwar wrth ichi ddal eich gwynt gan greu ail ochr y sgwâr. Anadlwch allan gan gyfri i bedwar er mwyn creu trydedd ochr y sgwâr, ac yna lluniwch y bedwaredd ochr gan ddal eich gwynt unwaith eto cyn ailadrodd y broses. Caiff hyn effaith lonyddol hyfryd arnoch, a gall eich helpu i gysgu.

 

Gall 10 munud o fyfyrio bob dydd eich helpu, yn enwedig pan mae straen a phryder yn bygwth mynd y tu hwnt i reolaeth. Un ymarfer yr ydym yn dychwelyd ato dro ar ôl tro yw’r myfyrdod cannwyll.  Gosodwch 10 munud ar amserydd ac eisteddwch i lawr gyda channwyll wedi’i chynnau o’ch blaen.  Syllwch ar y fflam am 30 eiliad ac yna caewch eich llygaid gan geisio dychmygu delwedd y fflam yn eich meddwl.  Unwaith y bydd meddyliau eraill yn dechrau meddiannu’ch pen, agorwch eich llygaid a syllwch eto ar y fflam. Ailadroddwch y broses gan ailganolbwyntio ar y fflam tan y bydd eich meddwl yn teimlo’n glir.

 

Gall cael cawod oer bob dydd, fel y mae Wim Hof yn ei argymell, helpu i gael gwared ar brosesau meddwl negyddol, a rhoi hwrdd o egni ichi. Ewch i’w wefan am gyflwyniad sydyn.

 

Os nad yw unrhyw un o’r rhain yn apelio, beth am dderbyn cyngor gan natur wrth iddo aeafgysgu a gorffwys. Pleser canol gaeaf syml o wylio hen ffilmiau, darllen llyfr newydd, gwneud jig-so, cael cwsg canol prynhawn o dan eich hoff gwilt, neu wrando ar bodlediad. Beth am gynllunio rhywbeth ar gyfer eich cartref neu eich gardd ar gyfer y gwanwyn.  Rhowch y popty araf ymlaen a chreu stiw aromatig blasus.  Dewch i mewn o’r tywydd oer i gael paned wrth y tân a chynheswch eich traed. Os ydych yn yr hwyliau, goleuwch gannwyll a chymryd moment i adlewyrchu ar ddiogelwch eich cartref.  Weithiau rydym yn gorfod creu ein goleuni ein hunain a gwerthfawrogi’r hyn y gallwn ei wneud yn hytrach na’r hyn na allwn ei wneud.