Mae cerdded ymysg natur yn brofiad arbennig iawn sy’n ein galluogi i rannu carpedi o glychau’r gog, cael cipolwg o las y dorlan, afonydd yn ymdroelli, rhaeadrau, coed hynafol yn newid gyda’r tymhorau ac yn cynnig cysgod i fyrdd o rywogaethau.
Gellir profi bob un o’r rhain ar Daith Dyffryn Clywedog sydd yn dilyn yr Afon Clywedog o Byllau Plwm y Mwynglawdd i’r gorllewin o Wrecsam, i Felin y Brenin, tua 5.5 milltir i lawr yr afon, i’r de-ddwyrain o ganol tref Wrecsam.
Mae arwyddion ar hyd y daith gerdded syth a gellir ei gerdded yn ei gyfanrwydd mewn ychydig oriau neu mewn rhannau byrrach yn dibynnu ar yr amser sydd ar gael. Mae yna nifer o lwybrau troed yn arwain oddi ar y daith sy’n galluogi’r cerddwr i archwilio’r ardal. Nid oes rhannau andros o heriol ond mae camfâu ac mae’r llwybr yn gallu bod yn fwydlyd mewn rhannau felly byddai gwisgo esgidiau cerdded cadarn yn syniad doeth.
Yn ogystal â rhyfeddu ar harddwch naturiol y daith, mae yna nifer o gyfleoedd i archwilio ei hanes cyfoethog:
- Roedd Pyllau Plwm y Mwynglawdd yn un o’r canolfannau mwyngloddio prysuraf yn ei ddydd ac yn ôl sôn y Rhufeiniaid wnaeth ddechrau cloddio plwm yma.
- Oddi ar y daith mae Chwarel Y Mwynglawdd, chwarel calchfaen sydd bellach yn warchodfa natur.
- Ychydig ymhellach i lawr y dyffryn mae Melin y Nant oedd yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i felino grawn.
- Yn dilyn ymlaen o Felin y Nant, yng nghoedwig Plas Power, mae tystiolaeth bellach o orffennol diwydiannol y dyffryn yn cynnwys cored, tramffordd o’r 18fed ganrif a lôn wagenni yr oedd John Wilkinson yn ei ddefnyddio i gario calchfaen o’r Mwynglawdd i Waith Haearn Y Bers i’w ddefnyddio yn y ffwrnesi. Mae rhan o Glawdd Offa, cloddwaith amddiffynnol a adeiladwyd gan Frenin Offa o’r Mers yn yr 8fed ganrif, i’w weld yma hefyd.
- O’r goedwig mae’r daith yn eich arwain heibio Gwaith Haearn Y Bers lle mae sôn mai dyma Waith Haearn cyntaf Prydain a ddechreuwyd gan John Wilkinson a bod canonau wedi’u bwrw yma hefyd.(Gellir archebu lle ar deithiau Gwaith Haearn Y Bers trwy Amgueddfa Wrecsam sy’n rhoi cipolwg o’r hanes hynod ddiddorol hwn.)
- Wrth ddilyn yr afon am ychydig filltiroedd eto byddwch yn dod i Barc Gwledig Erddig sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae gwyriad byr oddi ar y daith yn eich arwain i Neuadd Erddig, lle gallwch weld sut brofiad oedd byw mewn plas, i fyny’r grisiau ac i lawr y grisiau. Mae yna ffi mynediad ar gyfer y tŷ a’r gerddi. O fewn y parcdir gallwch weld y rhaeadr cwpan a soser oedd yn ffurfio rhan o’r system cyflenwad dŵr i Neuadd Erddig. Yn y coed mae twmpath lle’r oedd castell mwnt a beili Normanaidd yn arfer sefyll a Chlawdd Watt, cloddwaith amddiffynnol arall a adeiladwyd yn yr 8fed ganrif.
- Ar ddiwedd y daith mae Melin y Brenin, melin grawn o’r 18fed ganrif.
Mae’r daith yn cynnig digonedd o bethau syml i’w mwynhau i’r teuluoedd, gyda chyfleoedd i stopio a chael picnic (Pyllau Plwm Y Mwynglawdd, Melin y Nant ac Erddig); chwarae yn yr ardal chwarae ym Melin y Nant, chwarae cuddio yn y coed (Plas Power ac Erddig), padlo yn y dŵr, taflu brigau i’r dŵr (Erddig); dod o hyd i ffordd i groesi’r afon ar gerrig camu neu drwy’r ddrysfa goed yng nghoedwig Plas Power; edrych allan am gerfluniau coed o foch yn eu tylciau ym Melin y Nant a’r Brenin Offa trawiadol yng nghoedwig Plas Power, lle mae pryfaid wedi’u cerfio allan o goed i’w gweld hefyd.
Mae Taith Dyffryn Clywedog yn aros amdanoch i ddod i greu atgofion.