Bob wythnos, byddwn yn ymweld â rhai o’n trefi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a phori drwy rhai o’r ffeithiau diddorol o’r gorffennol sydd wedi eu siapio i beth ydynt erbyn heddiw.
Heddiw rydym yn edrych ar Ddinbych.
Mae’r enw Dinbych yn dod o ‘gaer fach’, a chofnodwyd yn y unfed ganrif ar ddeg. Datblygodd y dref gaerog o’r canol oesoedd o amgylch y gwaith o adeiladu’r castell. Roedd Dinbych ymysg y trefi cyfoethocaf yng Nghymru Elisabethaidd ac roedd yn enwog am ddiwylliant a diwydiant. Mae Dinbych yn dref farchnad hanfodol, gyda chymuned sy’n gweithio, wedi’i lleoli yn Nyffryn godidog Clwyd. Mae’n sefyll dan olion y castell, ac mae’n cynnwys mwy o adeiladau rhestredig nac unrhyw dref arall yng Nghymru, ac wrth archwilio Dinbych, rydych yn debygol o ddod ar draws gardd gyfrinachol neu drysor cudd rownd pob cornel. Gellir gweld patrymau strydoedd y canol oesoedd yn glir ar Lôn Cefn, sy’n rhoi blas o’i naws wreiddiol.
Castell Dinbych
A wyddoch chi…
Pan gomisiynodd Edward I y castell yn 1282 fel rhan o gyfres o’i amddiffynfeydd, roedd yn rhaid iddo gyflogi 3000 o weithwyr medrus ac anfedrus i gwblhau’r dasg. Allwch chi ddychmygu maint y dasg o ddarparu lloches, bwyd a chyflenwadau iddynt oll? Cwblhawyd y castell 28 mlynedd yn ddiweddarach.
Roedd Pwll y Grawys, sydd nawr yn gylchfan ger Morrision’s yn bwll pysgota cymunedol yn wreiddiol a oedd yn cynnwys cyflenwad o bysgod i’w bwyta yn ystod y Grawys.
Roedd yr adeilad lle mae’r llyfrgell heddiw yn sgwâr farchnad yn wreiddiol, gyda bwâu agored.
Roedd ymladd ceiliogod yn gamp hanesyddol boblogaidd yn Ninbych, gyda lleoliad a adeiladwyd yn bwrpasol ar ei gyfer. Roedd yn enghraifft mor arbennig, y cafodd ei dynnu carreg wrth garreg a’i adeiladu’n union yn yr un ffordd yn Amgueddfa Sain Ffagan yn y 70au, a gellir ymweld â’r adeilad fel rhan o’r daith dywys..
Safodd y talwrn crwn hwn gyda tho gwellt o’r 17 ganrif yn wreiddiol ym muarth Tafarn yr Hawk and Buckle, Dinbych.
Ganwyd y fforiwr Fictoraidd a oedd yn enwog am “Dr Livingstone I presume” yn 1841 yn Ninbych, a’i gartref enedigol oedd y tŷ bychan ger mynedfa’r castell.
Neuadd Gwaenynog, a’i arddwr Cadwaladr Puw oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer darluniau Beatrix Potter o Flopsy Bunnies a Mr McGregor pan arhosodd hi yno gyda’i hewythr Fred Burton.
Bu Dinbych yn gartref i sawl unigolyn pwysig yn hanesyddol. Dyma rhai ohonyn nhw…
Gelwir Catrin o Ferain (1535 – 1591), weithiau yn Fam Cymru, ac roedd ei bywyd yn llawn dirgelwch. Roedd gan yr etifeddes o Sir Ddinbych, waed Tuduraidd yn ei gwythiennau, ac roedd hi’n perthyn i Frenhines Elisabeth I o bell. Gyda’i phedair priodas i ddynion Cymraeg o broffil uchel, gan gynnwys Salisbury a Clough, a Wynn a Thelwall, ei chwech o blant a dros deg ar hugain o wyrion a aeth ymlaen i ffurfio rhai o deuluoedd cyfoethocaf y wlad, Catrin yw un o ferched fwyaf dylanwadol yn hanes Cymru. Yn oes Catrin, roedd pobl yn priodi am arian, tir a phŵer, nid cariad. Fel etifeddes gyfoethog o linach frenhinol, roedd Catrin yn cael ei hystyried yn ddynes boblogaidd.
Catrin o Berain
- Roedd Humphrey Llwyd (1527–1568) yn ddyn talentog iawn, yn gartograffydd, awdur, hynafiaethydd ac Aelod Seneddol. Roedd yn aelod arweiniol yng nghyfnod y Dadeni yng Nghymru. Ei arwyddair oedd “Hwy pery klod na golyd” –eu “Mae enwogrwydd yn para’n hirach na chyfoeth”. Fe’i anwyd yn Foxhall, ystâd y teulu yn Ninbych, ac roedd ganddo sedd sirol yn Sir Ddinbych. Fel dyn ifanc, addysgwyd Llwyd yn y gwyddorau a pheirianneg yn Rhydychen, a arweiniodd at ei swydd fel ffisegydd i Iarll Arundel. Roedd yn Weinidog yn y Senedd dros East Grinstead yn ystod teyrnasiad Elisabeth I. Yn 1563, dychwelodd Llwyd i fyw yng Nghastell Dinbych, gyda chaniatâd Syr John Salusbury, a oedd yn Arglwydd y Faenor ar Ddinbych, ar y pryd. Yn y flwyddyn honno, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Bwrdeistrefi Dinbych. Yn ôl y sôn, awgrymwyd ei fod wedi hyrwyddo pasio deddf oedd yn gorchymyn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, ond ni chanfu tystiolaeth i gefnogi’r honiad hwnnw. Mae’n fwy adnabyddus am lunio’r map cywir cyntaf o Gymru i’w gyhoeddi.
- Map cyntaf Llwyd o Gymru Cambriae Typus 1574
- Roedd Thomas Gee (1815-98) yn anghydffurfiwr o bregethwr, newyddiadurwr a chyhoeddwr o Gymru. Yn bedair ar ddeg mlwydd oed, dechreuodd weithio i gwmni argraffu ei Dad, sef yr enwog Gwasg Gee erbyn hyn, ond parhaodd i fynd i’r ysgol ramadeg yn y prynhawniau. Yn 1837, aeth i Lundain i wella ei wybodaeth o argraffu, ac wrth ddychwelyd i Gymru yn y flwyddyn ganlynol, fe drochodd ei hun yn y llyfrgell, a gwaith addysgol a chrefyddol. Ei gyflawniad pennaf yn y maes hwn oedd papur newydd Baner Cymru, a sefydlwyd yn 1857, ac fe gyfunodd ‘Yr Amserau’ dwy flynedd yn ddiweddarach i greu ‘Baner ac Amserau Cymru’. Yn 1886, sefydlodd Cynghrair Tir Cymru, i hyrwyddo ar gyfer hawliau tenantiaid. Roedd ei angladd yr un mwyaf mawreddog a welwyd erioed yn Ngogledd Cymru. Yn 1914, fe basiwyd Gwasg Gee allan o ddwylo teulu Gee, ar ôl mynd i drafferth ariannol, nes i’r Awdur Kate Roberts ei feddiannu yn yr 1930au. Fe helpodd eraill i achub y wasg yn yr 1950au. Gwasg Gee oedd un o brif gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg am bron i ddwy ganrif. Daeth i ben yn 2001.
-
Tudalen flaen un o brif bapurau newydd Gee: Baner Cymru
*Cofiwch o dan y cyfyngiadau presennol mai dim ond teithio hanfodol a ganiateir a dim ond o fewn pellter cerdded y caniateir ymarfer corff. Mae’r swydd hon i ennyn diddordeb ar gyfer ymweliadau yn y dyfodol pan fydd cyfyngiadau’n caniatáu ac yn rhoi rhywfaint o fewnwelediad hanesyddol i’n hardal.