Gyda sawl llong yn ymweld â therfynfa llongau mordaith Lerpwl, ac amser gyrru o ychydig dros awr, nawr yw’r amser i ddenu teithwyr gyda diwrnodau allan i’w cofio yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Gyda hyn mewn golwg, cynhaliodd partneriaid twristiaeth y rhanbarth Daith Ddysgu grŵp a mordaith i Lerpwl yn gynharach y mis hwn, gyda’r nod o ddatblygu teithlenni ar gyfer teithiau grŵp i ogledd-ddwyrain Cymru.

Gyda’n treftadaeth, antur a diwylliant helaeth, ynghyd â’n croeso cynnes Cymreig – rydym yn disgwyl y bydd ein teithlenni sydd ar y gweill yn dechrau denu’r rhai o bell i archwilio ychydig o’r hyn sydd gan ogledd-ddwyrain Cymru i’w gynnig.