Mae’r Woodland Skills yn Bodfari yn fenter cymdeithasol di-elw  sy’n  berchen gan y cymuned, wedi’u lleoli mewn 50 erw o goetir yng nghanol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Maent yn cynnal nifer o gyrsiau mewn crefftau traddodiadol, cyrsiau Bushcraft, gwyliau teuluol a chyrsiau ar gyfer grwpiau ieuenctid a chymunedol yn ogystal â chyrsiau Mindfulness fel rhan o’u rhaglen iechyd a lles.

Mae’r amser arafach yn diweddar, wedi eu galluogi i ailgysylltu â natur ac ailedrych ar brosiectau sydd wedi’u gohirio cyn hyn oherwydd diffyg amser. Maent wedi gallu adnewyddu eu gardd perlysiau meddyginiaethol ac ail-ddylunio’r rhandir cymorth cymunedol y maent yn ei redeg ar gyfer oedolion ag anghenion arbennig a gyfeirir atynt gan y gwasanaethau cymdeithasol.

 

Ac er eu bod wedi gorfod atal eu rhaglen arferol, maent wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Coed Lleol i gynnig sesiynau natur ar-lein, gyda’u nod ar y cyd o gefnogi iechyd a lles coetiroedd yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Maen nhw’n dweud ‘ Darganfyddwch sut y gall coetir helpu i roi bywyd newydd i’ch enaid, tra’n dysgu gofalu am yr amgylchedd ‘, beth sydd ddim i’w hoffi? Ac nid ni yw’r unig rai i feddwl felly gan eu bod wedi derbyn llawer o anrhydeddau gan gynnwys prif wobr a gyflwynwyd yn Sioe Frenhinol Cymru yn 2019 ar gyfer ‘ Coetir cymunedol gorau yng Nghymru ‘ yng nghystadleuaeth Coetiroedd Cenedlaethol Cymru 2015-2019, gwobr Baner Werdd 2019/2020 yn ogystal â chael ei chynnwys ar Country Focus.ar BBC Radio Wales.

 

Os ydych am gymryd rhan yn y sesiynau ar-lein rhad ac am ddim cliciwch yma i gael gwybod mwy.

Os ydych yn fusnes sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac os hoffech gael sylw, cysylltwch â ni isod.