Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i lawer o fusnesau Twristiaeth yn ystod y cyfnod clo, a dydi Rheilffordd Llangollen ddim yn eithriad.

Elusen yw’r rheilffordd stêm sy’n rhedeg ochr yn ochr â harddwch Afon Dyfrdwy. Mae’n teithio rhwng tref dwristiaeth boblogaidd Llangollen, ddeg milltir ar hyd Dyffryn Dyfrdwy sydd yn rhan o AHNE, a thref marchnad Corwen sy’n enwog am ei chysylltiadau ag Owain Glyndŵr, tywysog brodorol olaf Cymru.

Caeodd y llinell wreiddiol ym 1968 ond gyda gweledigaeth gwirfoddolwyr brwdfrydig cafodd 60 troedfedd o drac ei ail-osod ym 1975 ac o’r dechrau uchelgeisiol hwn mae’r rheilffordd wedi mynd o nerth i nerth.

 

Fel arfer mae’r rheilffordd yn brysur iawn gyda digwyddiadau a phriodasau trwy gydol y flwyddyn yn ogystal â threnau yn cludo teithwyr yn rheolaidd. Gyda chyfyngiadau’r cyfnod clo mae rheolwr cyffredinol yr elusen, Liz Mc Guinness wedi gorfod meddwl yn greadigol tu hwnt er mwyn gallu cynnal y sefydliad hwn yn ariannol. Sefydlwyd tudalen rhodd yn ogystal â gwerthu cyfrannau ac ocsiwn mud ar-lein sydd eisoes wedi codi £75,000.

Dyma Steve a Kim.

Un o’r nifer o briodasau ar reilffordd Llangollen.

Os ydych yn meddwl y gallwch helpu mewn unrhyw ffordd neu gyfrannu, cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Os ydych yn fusnes sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac os hoffech gael sylw, cysylltwch â ni isod.