Mae mis Ionawr yn gallu bod yn fis anodd i lawer o bobl felly mae’n hanfodol ein bod yn caniatáu amser i’n hunain i arafu, ymlacio ac adlewyrchu ar y flwyddyn a fu yn ogystal â’r flwyddyn i ddod, i ailfywiogi ein hunain o’r pwysau a ddaw yn sgil tymor y Nadolig. Un ffactor amlwg pam bod llawer ohonom yn isel ein hysbryd yn ystod y gaeaf yw bod ein cloc mewnol yn anghyson. Rydym yn treulio oriau o dan oleuadau artiffisial all achosi diffyg cwsg, ysbryd isel a phob math o anhwylderau eraill fel Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD). Un o’r ffyrdd gorau i oresgyn hynny yw gadael ein hunain ddod i gysylltiad â golau naturiol a thywyllwch naturiol.
Am filoedd o flynyddoedd mae bodau dynol wedi esblygu i ymateb i arwyddion naturiol dydd a golau. Sefydlwyd ein clociau mewnol gyda’r haul yn gwawrio a machlud. Mae ein cyrff yn cael eu rheoli gan hormonau sy’n cael eu cynhyrchu pan fydd yr arwyddion golau naturiol hyn yn cyrraedd ein llygaid. Mae yna hormon sydd yn cael ei greu gan olau dydd ac sydd yn ein cadw ni’n effro ac yn fywiog lle mae hormon arall yn datblygu trwy gydol y dydd fel bod ein hymennydd yn gwybod ei bod yn amser cysgu pan fydd hi’n dechrau tywyllu. Os gallwch dreulio deg munud o ymwybyddiaeth ofalgar mewn natur mae astudiaethau yn dangos bod hyd yn oed mynd am dro byr mewn golau naturiol yn gallu helpu i godi eich ysbryd am weddill y dydd. Os ydych yn gweithio o adref ceisiwch weithio yn ymyl ffenestr sydd yn gadael golau naturiol i mewn. Gallwch efelychu arwyddion naturiol drwy wneud yn siŵr eich bod yn ymlacio ar ddiwedd y dydd gyda golau wedi pylu, efallai ychydig o olau cannwyll ymlaciol ryw awr cyn i chi fynd i’r gwely. Os yw’r awyr yn glir beth am fynd allan i weld harddwch gwirioneddol awyr y nos a rhyfeddu ar y sêr a golau lleuad naturiol yr ydym yn ddigon ffodus i’w gweld yn ein hardaloedd awyr dywyll.
Fel rhan o bartneriaeth Awyr Dywyll Prosiect Nos rydym yn eich gwahodd i groesawu blwyddyn newydd iach drwy ddiffodd y goleuadau i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o’n hymgyrch awyr dywyll