Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn her i bawb. Wrth iddynt wynebu canslo rhan fwyaf o’u teithiau dros yr haf a gwybod y bydd eu cwsmeriaid tramor arferol yn debygol o gael trafferth dod i Gymru am y dyfodol rhagweladwy, fe aeth Adventure Tours UK ati i ailwampio eu strategaeth a chwilio am yr elfennau cadarnhaol yn y sefyllfa hon.
Mae Adventure Tours UK yn llunio ystod eang o deithiau egnïol i grwpiau bychan a gwyliau anturiaethau wedi’u teilwra ledled Cymru. Gan eu bod wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych, eu cenhadaeth o’r cychwyn cyntaf oedd sicrhau fod bryniau hyfryd a threfi canoloesol Gogledd Ddwyrain Cymru ar flaen eu cynlluniau. Deffro cwsmeriaid posibl i harddwch yr ardal yma yn hytrach na rhanbarthau mwy adnabyddus megis Eryri.
Gan na fydd teithio rhyngwladol yn debygol o ddigwydd am gyfnod, maent wedi troi eu sylw at farchnad ddomestig y DU. Mae eu teithiau a digwyddiadau i grwpiau bychain sy’n bodoli yn barod wedi cael eu haddasu i fod yn fwy addas i deithwyr lleol – pobl sydd ddim angen trosglwyddiadau o’r maes awyr ac sy’n debygol o yrru yma heb gymorth neb arall, yn ogystal â phobl sy’n ceisio osgoi torfeydd a dianc i leoedd gwledig gyda llai o bobl.
Mae eu Wild Wellness Retreat wedi ei leoli yma yn Sir Ddinbych yn The Forge. Mae’n berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dianc o’r bwrlwm dyddiol a chael seibiant bach ac ymlacio mewn lleoliad hyfryd yng nghanol natur. Ac i’r sawl sydd eisiau ychydig mwy o fwrlwm, mae The Forge hefyd yn lleoliad ar gyfer ein Trail Running Camp, dan hyfforddiant arbenigol gan y rhedwr eithafol lleol Tim Higginbottom.
Maent hefyd wedi achub ar y cyfle i greu gwyliau crwydro hunan-dywysedig newydd yma yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae gwyliau hunan-dywysedig yn galluogi pobl i deithio yn annibynnol, wrth aros mewn gwestai a lleoliadau gwely a brecwast. Mae’n ffordd ddefnyddiol o deithio os ydych yn awyddus i osgoi llefydd prysur ac eisio cadw pellter oddi wrth eraill. Wrth weithio gyda Headwater Holidays, maent yn falch o allu cynnig Llwybr Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru. Gwyliau cerdded 7-diwrnod sy’n symud o Ruthun i Langollen ac ymlaen i Lanarmon Dyffryn Ceiriog. Wrth aros 2 ddiwrnod ym mhob lleoliad, bydd gwesteion yn mwynhau’n teithiau cerdded godidog wedi’u cynllunio’n ofalus ar draws Fryniau Clwyd, drwy Ben Draw’r Byd, ar hyd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a mewn i fynyddoedd y Berwyn. Bydd modd archebu o ganol mis Awst, maent eisoes wedi cael llawer o ddiddordeb gan ymwelwyr sydd eisiau darganfod harddwch Sir Ddinbych.
Os ydych chi’n fusnes twristiaeth ac os hoffech chi ymddangos yma, cysylltwch â ni.