Mae Dyffryn Clwyd yn ddyffryn bendigedig ynghanol Sir Ddinbych a cheir ynddo glwstwr o atyniadau hanesyddol sy’n agos iawn at ei gilydd.
Yn Rhuthun gallwch fynd ar daith drwy saith cyfnod Nantclwyd y Dre, sef tŷ trefol ffrâm bren hynaf Cymru. Adeiladwyd y tŷ gwreiddiol yn ôl yn 1435 ac fe ychwanegwyd ato a chafodd ei ddiweddaru a’i uwchraddio dros y canrifoedd. Mae’r tŷ hwn wedi cael ei adfer yn hyfryd i ddangos bywydau’r trigolion a’r ffasiynau amrywiol. Mae rhywbeth annisgwyl yn byw yn yr ystafelloedd yn yr atig a gall ymwelwyr wylio ystlumod pedol lleiaf ar y ‘Camera Ystlumod’, gallant hefyd gymryd rhan mewn cwis a defnyddio sgriniau rhyngweithiol i ddysgu mwy am y tŷ a’i drigolion.
Yn ogystal â’r tŷ gallwch hefyd ymweld â’r Ardd Arglwyddi sydd wedi ei hadfer yn llawn. Mae mynediad i’r Ardd Arglwyddi wedi ei gynnwys yn y pris mynediad i’r tŷ. Soniwyd am y gerddi am y tro cyntaf yn ôl yn 1282 pan gawsant eu rhoi i Arglwydd y Gororau Reginald de Grey, yn ôl y sôn, ynghyd â Chastell Rhuthun, i gydnabod ei ran wrth geisio gorchfygu Llywelyn tywysog olaf Cymru. Ymddengys yr arferai’r Ardd Arglwyddi fod yn berllan a gardd lysiau i’r castell am tua 350 o flynyddoedd. Yn ystod y Rhyfel Cartref, daeth yn rhan o ystâd Nantclwyd y Dre gyda mwy o bwyslais ar ddoldir a gerddi addurniadol. Rhwng mis Ebrill a mis Medi, gallwch ymweld o ddydd Iau i ddydd Sadwrn rhwng 11am a 5pm.
Hefyd yn Rhuthun mae’r unig garchar a gafodd ei adeiladu’n bwrpasol mewn arddull Pentonville ar agor fel atyniad treftadaeth. Fel arfer gall pobl dreulio amser yn archwilio pob twll a chornel ohono a dysgu am fywyd yn y system garchardai yn oes Fictoria. Dewch i weld sut yr arferai’r carcharorion fyw o ddydd i ddydd; beth oeddent yn ei fwyta, sut roeddent yn gweithio, a’r cosbau a gawsant. Archwiliwch y celloedd, gan gynnwys y gell gosbi, y gell dywyll a chell y grog. Cewch ddysgu hanes yr Houdini Cymreig a William Hughes sef y dyn olaf i gael ei grogi yno. Fodd bynnag, o ganlyniad i ddifrod mawr mewn llifogydd, bydd y tu mewn ar gau am weddill 2021. Maent yn cynnal teithiau y tu allan i adeiladau’r carchar a’r iardiau ymarfer yn rhad ac am ddim, a bydd y Siop ar agor. Bydd teithiau’n cael eu cynnal am 11am a 2pm ar ddyddiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, o ddydd Mercher 2 Mehefin ymlaen.
Gan deithio 8 milltir i’r dref nesaf, sef Dinbych, mae’n anodd peidio â sylwi ar y Castell sy’n teyrnasu dros y gorwel. Mae Castell Dinbych yn ferw o ddrama. Wrth groesi’r bont godi i’r porthdy â thri tŵr byddwch yn clywed sŵn y porthcwlis yn taranu, y cadwyni’n cloncian a thwrw ceffylau a milwyr yn gorymdeithio. Gyda’r holl effeithiau sain yn y cefndir, mae’n hawdd iawn ei ddychmygu yn y gorffennol, ym mhreswylfa frenhinol Dafydd ap Gruffudd. Ei ymosodiad ef ar Gastell Penarlâg gerllaw a ysgogodd brenin Lloegr, Edward I, i danio ymosodiad llawn. Erbyn 1282 roedd Dinbych yn nwylo Cadlywydd y brenin, sef Henry de Lacy. Aeth ati ar unwaith i adeiladu caer enfawr o gerrig gyda muriau eang o amgylch y dref ar ben cadarnle Dafydd. Ond nid oedd y Cymry yn barod i ildio. Ymosodwyd ar y castell a oedd wedi ei hanner adeiladu a chafodd ei ddal ac, erbyn iddynt ei gael yn ôl, roedd y Saeson wedi newid y cynllun. Gwnaethant y llenfuriau’n llawer uwch, ychwanegwyd y porthdy mawreddog ac adeiladwyd cyrchborth dyfeisgar – drws cudd diogel – fel y gallai amddiffynwyr ddianc mewn argyfwng.
Ymhen wyth milltir arall gwelir castell arall yn y dyffryn ac mae camp beirianyddol anhygoel Castell Rhuddlan yn dal i sefyll yn gadarn uwchben Afon Clwyd. Roedd Brenin Edward I yn hoffi cael cestyll ar yr arfordir. Roedd hi’n fwy diogel gwneud hynny fel y gallai cyflenwadau barhau i gyrraedd ar y môr. Yn Rhuddlan, sawl milltir oddi wrth yr arfordir, y cynllun oedd defnyddio afon yn lle’r môr, ond nid oedd afon Clwyd droellog yn y man cywir. Felly gorfododd Edward gannoedd o weithwyr i gloddio a throi cwrs yr afon. Fwy na saith canrif yn ddiweddarach mae castell Rhuddlan yn parhau i edrych fel castell yr oedd hi’n werth symud afon ar ei gyfer. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1277 a hwn oedd y castell cyntaf o’r math consentrig arloesol, neu ‘waliau o fewn waliau’ a ddyluniwyd gan y meistr bensaer Iago o Lansan Sior. Mae’n hawdd hefyd gweld cynllun grid y strydoedd canoloesol yn Rhuddlan yr oes fodern.
I orffen y wibdaith hon o amgylch y dyffryn ni allwn anghofio am Neuadd Bodrhyddan, sef plasty Gradd 1 rhestredig sydd wedi’i leoli ynghanol llonyddwch heddychlon cefn gwlad. Mae’r Plasty, sydd â channoedd o aceri o erddi, parcdir a choetir, wedi aros yn nheulu Langford am fwy na phum can mlynedd. Yn gyfoeth o hanes a harddwch, mae Bodrhyddan yn croesawu gwesteion ac ymwelwyr. Mae Bodrhyddan, i’r gogledd o’r A5151, yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd ar gyfer teithiau tywys, ac mae’n cynnal dyddiau unigryw sy’n addas i deuluoedd a gallwch hefyd ei logi fel lleoliad gogoneddus ar gyfer eich priodas.
Mae’n siŵr eich bod yn cytuno bod digonedd i’w wneud yma, gormod mewn un diwrnod o bosib, felly pam na wnewch chi archebu llety a gwneud penwythnos iawn ohoni?
Blog a ysgrifennwyd gan Adran Dwristiaeth Cyngor Sir Ddinbych fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfannau 2021.