Chwareuon Dŵr Gwyllt

Ydych chi wrth eich bodd yn gwneud chwaraeon dŵr? Os felly,Gogledd-ddwyrain Cymrus yw’r gyrchfan berffaith i chi. Gallwch wneud amrywiaeth o chwaraeon dŵr mewn rhan ysblennydd o’r byd. Barcudfyrddio yn y Rhyl Dewch i Farcudfyrddio, sef gweithgaredd sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd, a hynny ar draeth hyfryd y Rhyl. Mae cwmni Pro Kitesurfing wedi’i leoli […]

Ydych chi wrth eich bodd yn gwneud chwaraeon dŵr? Os felly,Gogledd-ddwyrain Cymrus yw’r gyrchfan berffaith i chi. Gallwch wneud amrywiaeth o chwaraeon dŵr mewn rhan ysblennydd o’r byd.


Barcudfyrddio yn y Rhyl

Pro Kite

Dewch i Farcudfyrddio, sef gweithgaredd sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd, a hynny ar draeth hyfryd y Rhyl.

Mae cwmni Pro Kitesurfing wedi’i leoli ar lan y môr y Rhyl a gallwch archebu cyrsiau o bob hyd gan feithrin eich sgiliau presennol neu ddysgu camp cwbl newydd. Mae cryfder y gwynt yn berffaith ar gyfer Barcudfyrddio ar fôr y Rhyl a byddwch yn gallu arddangos eich triciau a thynnu lluniau gwych o’ch amser yng ngogledd-ddwyrain Cymru.


Padlfyrddio yn Llangollen

Water rescue dogs on stand up paddle boards, Llangollen canal. Event run by Standup Paddleboard UK . Routes To the Sea project Images by Craig Colville photographer Copyright held by Denbighshire County council

Mae Padlfyrddio wedi dod yn fwyfwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n caniatáu i chi hwylio’n hamddenol a dianc oddi wrth straen bywyd.

Yn Llangollen gallwch badlfyrddio ar hyd camlas enwog Llangollen a elwir yn Safle Treftadaeth y Byd. Y peth gorau yw y gallwch ddod â’ch ci gyda chi ar y gamlas! Felly ni fydd eich cŵn yn methu’r hwyl o hwylio wrth ymyl y cerddwyr ac amsugno’r awyrgylch tawel.

Hyd yn oed os yw’n well gennych rywbeth mwy anturus, gallwch badlfyrddio i lawr dyfroedd gwyn Afon Dyfrydwy… sy’n siŵr o roi cic i’ch adrenalin!


Marchogaeth ar Draeth Talacre

bridlewood_riding_centre_1

Rydych chi’n iawn, nid chwaraeon dŵr yw marchogaeth. Ond mae’n brofiad unigryw a gwefreiddiol cael trotian neu garlamu ar gefn ceffyl dros dywod Traeth Talacre.

Yng Nghanolfan Farchogaeth Bridlewood mae ganddynt brofiadau gwahanol sy’n addas i bobl o bob oed a gallu felly mae’n bosibl i unrhyw un fwynhau diwrnod allan gwych. Mae llwybrau ceffylau araf ar gael i farchogwyr nerfus a di-brofiad ac yna mae teithiau o wahanol hyd sy’n amrywio o gerdded a throtian ar hyd y traeth i garlamu’n araf neu’n gyflym ar gyfer y marchogwyr mwy profiadol.


Profi nerth yr Afon Dyfrdwy

The River Dee attracts all manner of thrill seaking tourists Routes To the Sea project Images by Craig Colville photographer Copyright held by Denbighshire County council

Dewch i brofi nerth yr afon Gymreig hon.

Gyda chwmni Llangollen Outdoors, gallwch fynd mewn caiac, cerdded ceunentydd, padlfyrddio, cymryd rhan mewn crefft dŵr gwyn ac yna tiwbio trwy olygfeydd rhyfeddol Sir Ddinbych. Mae’n berffaith ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am dipyn o wefr ac antur a bydd yn siŵr o wneud eich amser yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn un cofiadwy!