Nawr ein bod dan gyfyngiadau clo lleol sy’n cynnwys y tair sir sy’n ffurfio Gogledd Ddwyrain Cymru, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n cefnogi ein busnesau ac atyniadau lleol trwy gyfnod anodd arall.

Gallwn ddal i deithio o fewn ein sir ein hunain ac felly barhau i gefnogi bwytai, tafarndai, caffis a siopau lleol.

Os oes gennych hoff siop, caffi neu fwyty rydych chi’n teimlo sy’n arbennig, neu’n drysor cudd, anfonwch e-bost at fiona.dolben@sirddinbych.gov.uk i’w cynnwys yma. Rydym hefyd yn awyddus iawn i ganfod lleoedd sy’n croesawu cŵn oherwydd rydym yn gobeithio ysgrifennu erthygl am hyn cyn hir.

 

Mae Pethau Tlws yng Nghorwen yn enghraifft wych o siop annibynnol. Mae’n gwerthu amrywiaeth o anrhegion unigryw wedi’u gwneud yn lleol i’ch anwyliaid, eich cartref a chi eich hun.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn Sir Ddinbych, mae ein hatyniadau treftadaeth fel Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre yn dal i fod ar agor yn Rhuthun, a hefyd Canolfan Grefft Rhuthun ac Sc2 gyda Tag Ninja ar yr arfordir.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Carcharwr sy’n cydymffurfio â Covid yng Ngharchar Rhuthun.

 

 

Oeddech chi’n gwybod bod Castell Dinbych wedi agor ei ddrysau o ddydd Iau i ddydd Llun, rhwng 10am a 5pm, gyda mynediad am ddim i breswylwyr Sir Ddinbych?

Mae gennym siopau coffi, caffis a bwytai i weddu i bawb o ran steil a phrisiau, ac maen nhw gystal ag unrhyw ardal drefol ffasiynol. Mae digon o ddewis i chi, ond gwiriwch a oes angen i chi archebu lle o flaen llaw.

 

 

 

 

 

 

 

Mae gan siop Goffi Oak https://www.facebook.com/llangollencoffee/Street yn Llangollen lawer o ddewisiadau fegan, glwten a di-laeth.

Yn aml, ni fyddwn yn archwilio ein hardal leol ein hunain fel twristiaid, felly beth am gymryd y cyfle hwn i edrych ar le rydych chi’n byw trwy lygaid ffres a gweld pa drysorau gallwch eu canfod?