Cestyll Gogledd Dwyrain Cymru gan Quirky Traveller

Mae ein cornel o ogledd Cymru’n orlawn o gestyll anhygoel i chi eu harchwilio a’u darganfod. Beth am drefnu penwythnos i archwilio’r cestyll sydd wedi’u cuddio yn ein tirwedd. Dilynwch deithiau The Quirky Traveller o’r cestyll wrth iddi archwilio cestyll Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Castell Ewlo   Y castell hwn yn Sir […]

Mae ein cornel o ogledd Cymru’n orlawn o gestyll anhygoel i chi eu harchwilio a’u darganfod. Beth am drefnu penwythnos i archwilio’r cestyll sydd wedi’u cuddio yn ein tirwedd.

Dilynwch deithiau The Quirky Traveller o’r cestyll wrth iddi archwilio cestyll Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

See The Quirky Traveller full blog

Castell Dinas Bran, Castles of North East Wales
Castell Dinas Bran | Dinas Bran Castle

Castell Ewlo

 

Y castell hwn yn Sir y Fflint yw’r lle i fynd i gael y tawelwch a’r llonyddwch prin hwnnw. Er nad yw hwn y castell mwyaf poblogaidd i ymweld ag ef yng ngogledd ddwyrain Cymru, mae’r ffaith hon hefyd yn golygu mai dyma’r castell gorau i gael llonydd oddi wrth bobl am dipyn bach. Wrth gyrraedd y castell Canoloesol, mae’n hawdd meddwl nad oes bosibl cael castell yn y lleoliad hwn, fodd bynnag, mae’r daith gerdded dawel drwy’r coed tuag at y castell ond yn ychwanegu at brydferthwch eich taith gerdded.

Unwaith y byddwch yn cael hyd i’r castell, fe sylweddolwch mai prin y gellir ei adnabod fel castell, fodd bynnag, mae’n cael ei gynnal gan CADW ac mae’n fwyaf adnabyddus am ei Dŵr siâp D, ac fe dybir iddo fod wedi’i adeiladu gan Llywelyn Ein Llyw Olaf ar ôl 1257. Castell godidog iawn sy’n siŵr o wneud llun Instagram gwych o’ch teithiau (os cewch hyd i ongl dda!)

Cost Mynediad – Am ddim

Amseroedd Agor – Bob dydd 10:00am / 4:00pm

Cod Post Llyw Lloeren – CH5 3BZ

 

Castell y Fflint

 

Mae’r castell arfordirol hwn yn drysor ymhlith cestyll gogledd ddwyrain Cymru. Mae’n ddatganiad o rym ac yn dangos hanes sylweddol tref y Fflint. Roedd y castell strategol hwn yn un o’r rhai cyntaf i gael ei adeiladu gan Edward I, gan ei fod mewn lleoliad delfrydol ger Gaer, ac yn hygyrch o Afon Dyfrdwy. Yn olygfa boblogaidd i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, mae gan y castell y budd ychwanegol o gael sŵn y môr yn gefnlen iddo, gan ei wneud yn lle perffaith i chi ofalu am eich lles a dianc o unrhyw straen sydd gennych.

Gyda thref y Fflint yn ategiad at y castell, mae hwn yn weithgaredd perffaith i’w wneud a’i brofi wrth i chi deithio drwy ogledd ddwyrain Cymru.

Cost Mynediad – Am ddim

Amseroedd Agor – 10:00am / 4:00pm

Cod Post Llyw Lloeren – CH6 5PH

Castell Fflint | Flint Castle
Castell Fflint | Flint Castle

Castell Dinbych

 

Mae castell amddiffynnol Dinbych yn hawdd i’w weld o bob rhan o’r dref, gan ei fod yn eistedd ar y bryn uchaf yng nghanol y dref. Mae’r castell yn edrych dros y dref i gyd ac yn hygyrch o wahanol lwybrau o’r dref. Unwaith rydych y tu mewn i’r castell, mae sŵn y dref brysur islaw yn cael ei dawelu a gallwch archwilio corneli bach y castell anhygoel hwn mewn tawelwch. Nodwedd orau castell Dinbych yw ei borthdy mawr trawiadol â thri thŵr, ac mae’n rhaid i chi ei weld, gan ei fod yn adnabyddus fel un o saith rhyfeddod Cymru.

Mae’r golygfeydd o Fryniau Clwyd o’r rhagfuriau’n sicr yn edrych yn dda ar Instagram ac mae’n rhaid i chi eu dangos i’ch ffrindiau a’ch teulu. Gyda sawl digwyddiad yn y castell drwy gydol y flwyddyn, gall fod yn gyfle da i ymuno â digwyddiad arbennig neu i archwilio’r castell yn eich amser eich hun.

Cost mynediad – Oedolyn (£4.00) Teulu (£11.60) Hŷn (£3.20) Myfyriwr – O dan 16 (£2.40) O dan 5 (Am ddim)

Amseroedd Agor – 10:00am – 5:00pm

Cod Post Llyw Lloeren – LL16 3NB

 

Castell Bodelwyddan

 

Mae Castell Bodelwyddan yn gastell rhestredig Gradd 2 y gellir ei weld oddi ar ffordd brysur yr A55 sy’n byrlymu drwy ogledd Cymru. Mae’r castell diddorol bellach yn westy yn rhannol a gyda sawl ystafell i chi eu harchwilio a darganfod mwy am yr heriau a wynebodd y castell hwn. O gael ei ddefnyddio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (taith ar gael o atgynhyrchiad o ffos y Rhyfel Byd Cyntaf), i gael ei ddefnyddio fel ysgol i Ferched cyn bod yn agored i’r cyhoedd.

Gyda Drysfa heriol a maes chwarae antur i blant, mae Castell Bodelwyddan yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu cyfan, ac yn lle gwych i oedi ar eich antur A55.

Cost Mynediad – Teulu (£37) Oedolyn (£16) Consesiwn (£14) Plentyn – 4 / 16 oed (£9.50) 3 ac ieuengach (Am ddim)

Amseroedd Agor – Dydd Mawrth i ddydd Iau (11:00am – 16:00) Dydd Sadwrn a dydd Sul (11:00am – 16:00)

Cod Post Llyw Lloeren – LL18 5YA

Castell Dinbych | Denbigh Castle
Castell Dinbych | Denbigh Castle

Castell Rhuthun

 

I aros mewn lle tra gwahanol ar eich gwyliau, mae castell Cymreig yn gorfod bod ar eich rhestr o bethau i’w gwneud yn ystod eich oes. Wedi’i adeiladu ddiwedd y 13eg ganrif gan Dafydd ap Gruffydd, mae rhai rhannau o’r mur yn dal yn eu lle (ac i weld golygfa wych o’r mur gwreiddiol, dylech fynd i Ardd yr Arglwydd yn Nantclwyd y Dre).

Gyda’i westy, sba a’i beunod ei hun, Castell Rhuthun yw’r lleoliad gorau am wyliau yng ngogledd ddwyrain Cymru. Gyda the’r prynhawn yn cael ei weini yn y castell, yna mae hwn wir yn baradwys ar gyfer unrhyw un sy’n hoff o gestyll, a gyda Nantclwyd y Dre a charchar Pentonville Carchar Rhuthun i’w gweld tra rydych yn nhref farchnad Rhuthun…gellir newid hwn yn drip penwythnos llawn gan fod digon i’w wneud.

Archebwch ystafell