Mae Dinas Brân wedi sefyll uwchben Llangollen yn ysblander Dyffryn Dyfrdwy ers pan adeiladwyd y castell ym 1260. Yn wahanol i lawer o gestyll eraill yng Nghymru, nid y Normaniaid neu’r Saeson a’i hadeiladodd, ond yn hytrach Gruffudd ap Madog, Tywysog Powys Fadog, ar safle bryngaer hynafol. Llosgodd y Cymry’r castell yn fwriadol ym 1277 er mwyn atal hynt byddin Lloegr, ond fe’i hatgyfeiriwyd a’i ddefnyddio fel garsiwn gan Edward y Cyntaf. Gadawyd y castell yn wag yn fuan wedi hynny, ac felly byr iawn y parodd y prysurdeb yno.
Saif adfeilion y castell 750 o droedfeddi uwchlaw lefel y môr, a cheir oddi yma olygfeydd panoramig o Langollen a godre’r Berwyn. I’r gorllewin gwelir Moel Morfydd dan orchudd o rug, a tharenni calchfaen trawiadol Creigiau Eglwyseg, a gwastadeddau Swydd Amwythig yn bell i ffwrdd yn y dwyrain. Mae arwyddion yn dangos y ffordd i fyny o ben gogleddol y bont dros y gamlas rhwng yr afon a’r ysgol. Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau cryf gan fod y llwybr yn eithaf serth, ond mae’r golygfeydd yn werth yr ymdrech
Mae’r castell wedi ysbrydoli nifer o chwedlau, gan gynnwys y sôn fod y Greal Sanctaidd wedi’i guddio yma. Un arall yw hanes cawr drwg o’r enw Madog a fu’n gwarchod trysor yma, ac er iddo gael ei orchfygu yn y pen draw, maen nhw’n dweud fod y celc o aur yn dal wedi’i gladdu’n ddwfn o dan y bryn. P’un a ydych chi’n credu’r hen hanesion neu beidio, mae’n lle perffaith i fynd am bicnic yn yr haul, neu orwedd a gwylio’r cymylau’n chwythu heibio. Mae’n rhaid ichi ddod â’ch lluniaeth eich hun y dyddiau hyn, yn wahanol i Oes Fictoria pan fyddai dynes yn dringo i ben y bryn bob dydd i werthu bwyd i’r ymwelwyr. Gweler y llun isod a ddarparwyd gan swyddfa Archif Sir Ddinbych.
Fe ddewch chi o hyd i lawlyfr yng Nghanolfan Croeso Llangollen, ac mae mwy o wybodaeth am Langollen a’r atyniadau gerllaw i’w lawrlwytho yma.
Lluniau o lyfr ymwelydd Gwesty y Hand. Cyflenwyd gan Swyddfa Archifau Sir Ddinbych.
Ysgrifennwyd y blog hwn fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfannau Cyngor Sir Ddinbych 2021.