Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru bopeth sydd ei angen arnoch i addurno eich cartref y Nadolig hwn yn ogystal â busnesau lleol a all ddarparu anrhegion arbennig i’ch holl anwyliaid.
Nawr yn eu 14eg flwyddyn bydd Coed Nadolig Loggerheads yn agor ddydd Gwener yma ar y 27ain o Dachwedd. Maent hefo coed o 4 i 20 troedfedd gan gynnwys Nordman, Lodgepole a Frazer ffirs maent i gyd yn dod ag addewid y byddant yn dal i fyny ymhell y tu hwnt i Ddydd Nadolig fel y gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd nodwyddau pinwydd yn disgyn tan o leiaf y flwyddyn newydd! Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.
Mae Making an Entrance yn gwmni gwneud torchau pwrpasol sydd wedi’i leoli yn Sir Ddinbych. Mae gan Wendy ddawn go iawn am roi lliwiau at ei gilydd ar gyfer pob tymor ac mae’n cynnig danfoniad i’w chwsmeriaid. Gallwch ddarllen adolygiadau ei chwsmeriaid yn ogystal â sut y dechreuodd Wendy ei busnes yn ei blog hyfryd yma
Felly, os ydych chi’n ystyried dechrau ar eich siopa Nadolig, nid oes angen i chi edrych ymhellach na’n trefi marchnad gwych sy’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i siopau cadwyn cyfartalog y stryd fawr.
Mae Wish yn siop nwyddau cartref hyfryd ar y Stryd Fawr, Rhuddlan, gyda thudalen facebook wych i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am stoc newydd.
Dolly’r ci yn modelu rhai o’i rhoddion gan Wish.
Mae State of Distress ar Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun yn siop ddodrefn ddiddorol sydd hefyd yn stocio cardiau, darnau crefftus, crocenwaith peintio eich hyn yn ogystal â bod yn stocwr paent Annie Sloan. Os ydych yn chwilio am ddarn unigryw i addurno eich cartref edrychwch ar rai o ddyluniadau Bernadette neu gofynnwch iddi am rai syniadau i uwchgylchu eich dodrefn eich hun. Mae Choo Choo hefyd oddi ar yr un Sgwâr yn cynnig y gorau mewn nwyddau cartref, dillad ac ategolion, cardiau ac anrhegion ac mae’r perchennog Maria wedi addasu ei busnes yn ystod 2020 i gynnig grŵp Facebook preifat i’w holl gwsmeriaid drafod décor cartref a ffasiwn.
Mae Gifts from Wales ar Stryd y Castell yn Llangollen yn cynnig anrhegion a chardiau unigryw hyfryd yn ogystal ag addurniadau ac anrhegion Nadolig personol i gael gwybod am ei cynnyrch diweddaraf yn rhoi dilyniant iddynt yma. Ymhellach i lawr y stryd hefyd yn Llangollen mae Lilly Rose Interiors sy’n stocio canhwyllau i glustogau, lampau a thaflau, i glymau seramig ac arosfannau drysau a phopeth yn y canol ond hefyd yn arbenigo mewn celf a wnaed yn lleol.
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth sy’n cael ei wneud yn arbennig ar gyfer rhywun, ydych chi wedi ystyried fframio llun arbennig neu brynu print o’r ardal leol fel anrheg? Mae nifer o siopau celf ac argraffu yn ogystal â fframiau lluniau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru dyma dri ar gyfer chi fel esiampl. Mae Perham Prints yn y Rhyl yn cynnig anrhegion personol a dosbarthu am ddim o fewn 10 milltir, mae Tony Griffiths yn ffotograffydd a fframiwr lluniau yn Stryd y Dyffryn, Dinbych ac mae Ian Grant Designs yn Oriel Gelf gyda gwaith celf hardd ar Heol Wellington, y Rhyl.
Rydym wir yn gobeithio ein bod wedi rhoi rhai syniadau i chi ar gyfer y Nadolig a byddwn yn cynnwys busnesau pellach yma yn yr wythnosau sy’n arwain at y diwrnod mawr, yn y cyfamser peidiwch ag anghofio #CaruBusnesauLleol a chefnogi eich busnesau lleol.