Ganrifoedd yn ôl, roedd pererinion yn eu miloedd yn teithio draw i Ynys Enlli, wedi iddynt glywed yr hanes am yr heddwch arbennig oedd i’w gael yno ar ymylon y byd gorllewinol. Cawsent eu denu i wlad y machlud, lle byddai dim byd ond y môr mawr rhyngddyn nhw a’r anwybod.
Mae Llwybr y Pererin yn daith gerdded o fwy a 130 o filltiroedd. Mae’n cael ei gofalu gan gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi arwyddion llwybr yn cysylltu eglwysi hynafol a gysegrwyd i seintiau’r 6ed ganrif y mae eu ffydd tawel, yn plethu gyda naws yr harddwch a rhyfeddod byd natur, yn dal i atsain i ninnau heddiw.
Abaty Dinas Basing, oedd yn gwasanaethu fel ysbyty i’r pererinion hynny a ai i Dreffynnon yn y canol oesoedd, yw man cychwyn Llwybr y Pererin.Mae’r daith yn arwain drwy goedwigoedd a thros afonydd, i fyny mynyddoedd ac ar hyd llwybrau’r arfordir, drwy diroedd gwyllt ac i mewn i bentrefi. Mae’n dathlu treftadaeth y seintiau Celtaidd hynny y collwyd eu hanesion yn niwl yr oesoedd ond y mae eu hatgofion yn atseinio mewn hen hen eglwysi ac mewn ffynhonnau sanctaidd ar hyd y daith.
Erbyn hyn mae pobl yn ailddarganfod traddodiad y bererindod ac yn ei hailddyfeisio ar gyfer oes newydd. Mae pererinion y presennol wedi disgrifio’r profiad fel “ail osod y sylfaen yn fy mywyd” fel “seibiant” ac “amser i grwydro a rhyfeddu”. Bydd pob math o bethau’n gwneud i ni ryfeddu. Cawn weld y groes 12 troedfedd ym Maen Achwyfan – mil o flynyddoedd oed, wedi’i cherfio gyda chlymau Celtaidd ac yn dal i eistedd yn fawreddog ac yn unig ynghanol cae, gyda’i chymysgedd o symbolau Cristnogol a phaganaidd. Cawn ryfeddu at fywyd gannoedd o flynyddoedd yn ôl hefyd wrth i ni basio cylchoedd cerrig uwch ben dyffryn Conwy. Ac wrth i ni gerdded, gallwn wir amsugno harddwch tirlun Cymru.
Mae pererindod yn daith gerdded gyda dimensiwn newydd. Wrth wynebu sialens y tir a’r tywydd, bydd y pererinion yn anghofio’r pethau bach sy’n eu poeni bob dydd ac yn dod yn rhan o’r darlun mwy. Mae safbwyntiau’n newid, blaenoriaethau’n cael eu hailasesu. Uchafbwynt y profiad yw croesi’r môr mewn cwch agored a chyrraedd Ynys Enlli o’r diwedd. A chludo’r heddwch a’r distawrwydd hwnnw adre gyda chi, dyna’r rhodd sy’n parhau.