A ydych chi erioed wedi teithio drwy Ogledd Ddwyrain Cymru ac wedi galw heibio yn un o’n trefi marchnad gan feddwl…. faswn i’n hoffi dysgu mwy am y dref hon neu’r tirnod hwn? Mae Cadwyn Clwyd, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru wedi dod at ei gilydd i ddatblygu ap Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n llawn gwybodaeth am ardaloedd penodedig yn ein cornel ni o Ogledd Cymru.
Lluniwyd yr ap i’ch helpu i ddarganfod rhai o’r trysorau cudd yn y rhan ddiddorol hon o Gymru, sy’n cynnwys Dyffryn Ceiriog, Y Parlwr Du, Treffynnon, yr Wyddgrug, Llanelwy Brynffordd, Rhuddlan, Corwen, Llangollen, Y Waun, Gwâl a Chefn Mawr. Gyda rhagor o grwpiau cymunedol lleol yn awyddus i ymuno â’r ap, gobeithir y bydd yn gallu tyfu a chynnig rhagor o wybodaeth am y dirwedd a’r dreftadaeth.
Mae cymunedau ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam wedi datblygu eu llwybrau digidol eu hunain i annog pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i archwilio eu hardal leol a darganfod mwy am eu treftadaeth. Yn ogystal â hynny, yn dilyn cyfraniad ffantastig gan grwpiau cymunedol lleol, crëwyd y llwybrau digidol i gynnig canllaw manwl i hanes a thirwedd bob cymuned unigol.
Mae’r ap yn defnyddio technoleg beacon i ddangos gwybodaeth berthnasol am lefydd cyfagos pan fyddwch yn archwilio Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae cynnwys yr ap ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid gan Gadwyn Clwyd dan y cynllun LEADER. Cronfa ar gyfer ardaloedd gwledig yng Nghymru er mwyn ymchwilio i ddulliau newydd ac arloesol a thechnolegau arbrofol er mwyn mynd i’r afael â thlodi, creu swyddi a hybu datblygiad economaidd cynaliadwy yw LEADER. Mae’n rhan o Raglen Datblygiad Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, sydd wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.