Rydym yn hynod o lwcus o’r arfordir hyfryd sydd gennym ni yma yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn ymestyn o Sir y Fflint i Sir Ddinbych. Y ffordd orau i fwynhau’r traethau hyn yw ar droed, ac mae Llwybr Arfordir Cymru. yn ei gwneud yn hawdd i bobl allu gwneud hynny. ‘Does dim i guro taith gerdded hir ar hyd yr arfordir, gyda gwynt y môr yn llifo drwy’ch ysgyfaint a sŵn y tonnau’n atseinio yn eich clust.
Dyma ychydig o gyngor ymarferol am y traethau hygyrch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Pryd mae’r cyfyngiad ar gŵn yn weithredol?
- 1 Hydref – 30 Ebrill: gallwch fynd â’ch ci i unrhyw le ar y traeth.
- 1 Mai – 30 Medi: mae’r cyfyngiadau ar waith, felly dim ond i rannau penodol o’r traeth y gallwch fynd â’ch ci.
Ble fedra i fynd â’m ci?
Tra mae’r cyfyngiadau ar waith, gallwch ond mynd â’ch ci i’r ardaloedd ymarfer cŵn penodedig.
Sef:
- Yr ardal rhwng Old Golf Road, y Rhyl, a Ffrith Festival Gardens, Prestatyn
- Yr ardal i’r dwyrain o’r Clwb Hwylio ar Draeth Barkby, Prestatyn
Mae arwyddion a mapiau ar y traethau yn dangos lle gallwch chi fynd â’ch ci am dro yn ystod yr haf.
Achubwyr Bywyd
Mae achubwyr bywyd cymwys yn gweithio ar draethau’r Rhyl a Phrestatyn ac yn darparu cyngor ar ddiogelwch ac yn ymateb i ddigwyddiadau drwy gydol y tymor.
Mae ein hachubwyr bywyd yn gweithio yn ystod yr amseroedd canlynol;
26 Mai i 3 Mehefin | 7 diwrnod yr wythnos | 10am tan 6pm |
9 Mehefin i 24 Mehefin | Ar benwythnosau yn unig | 10am tan 6pm |
30 Mehefin i 2 Medi | 7 diwrnod yr wythnos | 10am tan 6pm |
Traethau Prestatyn
Barkby Beach
Mae Traeth Barkby yn fwrlwm o weithgareddau ar gyfer cychod ac yno fe welwch Glwb Hwylio Prestatyn a llithrfa lansio cychod. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio llithrfeydd a lansio cysylltwch ag Adran yr Harbwr ar 01824 708400.
Ni chaniateir nofio yn yr ardal hon oherwydd bod cychod yn defnyddio’r llithrfa, ond mae’r traeth yn lle perffaith i fwynhau’ch hun, codi castell tywod neu fwynhau’r tywydd. I’r dwyrain o’r llithrfa a’r clwb hwylio mae ardal sy’n croesawu cŵn yn dechrau eto.
Traeth Canol
Y traeth canol yw’r prif draeth ym Mhrestatyn ac mae’n boblogaidd iawn ymysg ymwelwyr. Gallwch gael mynediad at y traeth o feysydd parcio Dwyrain Nova a Gorllewin Nova. Mae achubwyr bywyd yn cael eu lleoli yn yr ardal yn ystod y tymor.
Os ydych yn bwriadu mynd i nofio, cofiwch wirio baneri’r achubwyr bywyd i weld a yw’n ddiogel a chwiliwch am y lle gorau i nofio. Os ydych yn ansicr, gallwch siarad gyda’r achubwr bywyd a fydd yn barod i’ch helpu.
Mwy o wybodaeth am ein hachubwyr bywyd a’u horiau gwaith.
Mae cyfleusterau eraill sydd ar gael ar y Traeth Canol yn cynnwys cawod, caffis ac ardal chwarae.
Mae traeth canol wedi ennill gwobr glan y môr.
Traeth Ffrith
Ym mhen gorllewinol Prestatyn, mae dau barth ar Draeth Ffrith. Mae’r cyntaf, Traeth Gorllewin Ffrith, yn ymestyn o’r Cwrs Golff at fynedfa Parc Hwyl Traeth Ffrith. Mae’r mynediad llethrog o’r promenâd yn nodi’r ardal hon sy’n ei gwneud yn llawer haws i bobl gael mynediad at y traeth. Mae’r traeth hwn yn ffurfio rhan o’n hardal sy’n croesawu cŵn ac mae croeso i chi fynd â’ch ci am dro yma ar unrhyw adeg.
Mae’r ardal i’r dwyrain o lithrfa Ffrith sy’n dechrau o Barc Hwyl Traeth Ffrith a heibio i Erddi’r Twr at faes parcio Gorllewin Nova yn ardal fwy poblogaidd sy’n arwain at y prif draeth yng Nghanol Prestatyn. Ni chaniateir cŵn yn Nwyrain Traeth y Ffrith o fis Mai tan fis Medi.
Traethau’r Rhyl
Gorllewin y Rhyl
Mae harbwr y dref ar ochr orllewinol y Rhyl o The Harbour at The Village. Rydym yn annog pobl i beidio â nofio ger yr harbwr gan fod cychod yn mordwyo i mewn ac allan ohono ac mae Afon Clwyd yn llifo’n gyflym yma a gallai hynny roi pobl mewn anhawster neu gallai eu hysgubo i’r môr.
Fodd bynnag yn nes i lawr tuag at Parc Drifft a’r Pentref, mae lle gwych i badlo. Os ydych chi’n ymweld â’r bromenâd, beth am fynd i’r Maes Chwarae Dŵr.
Gyda man chwarae i blant, mae’r traeth hwn yn berffaith am ddiwrnod allan yn codi cestyll tywod, padlo a thorheulo, ond cofiwch eich eli haul! Mae cyfyngiad ar gŵn yn yr ardal hon o fis Mai tan fis Medi.
Canol y Rhyl
Gyferbyn â phen uchaf y Stryd Fawr mae ein traeth prysuraf lle caiff pobl eu hannog i ymdrochi. Yn ystod y tymor bydd ein achubwyr bywyd yn cadw llygad arnoch i sicrhau’ch bod yn ddiogel yn y dŵr ac allan o’r dŵr fel y gallwch fwynhau’ch ymweliad.
Cofiwch fod y llanw yn dod i mewn ac allan!
Mae Traeth Canol y Rhyl bellach yn gartref i weithgareddau chwaraeon y môr. Mae hyn yn cynnwys Pêl Foli Traeth a Phêl-droed Traeth yn rhad ac am ddim tra bo’r achubwyr bywyd ar ddyletswydd.
Gwiriwch amseroedd y llanw i osgoi cael eich dal ar fanc tywod pan fydd y llanw’n dod i mewn. Mae cyfyngiad ar gŵn yn yr ardal hon o fis Mai tan fis Medi.
Mae achubwyr bywyd yn cael eu lleoli ar Draeth Canol y Rhyl yn ystod y tymor.
Mwy o wybodaeth am ein hachubwyr bywyd a’u horiau gwaith.
Dwyrain y Rhyl
Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud tra’r ydych ar y traeth? O ardal Gwylwyr y Glannau, heibio Suncentre ac ar hyd Old Golf Road, mae gan draeth Dwyrain y Rhyl barth gweithgareddau chwaraeon traeth fel syrffio barcud, bordhwylio a chaiacio. Ni chaniateir cŵn ar Draeth Dwyrain y Rhyl o fis Mai hyd at fis Medi. Gallwch hefyd logi cadeiriau olwyn sy’n gallu mynd ar y traeth o’r consesiwn syrffio barcud.
Splash Point
Splash Point yw ein traeth sy’n croesawu cŵn a gall cŵn fynd yno am ymarfer corff unrhyw bryd. Mae mynediad ar gael i’r traeth ar bwyntiau penodol gan fod waliau’r môr yn eithaf uchel rhwng y traeth a’r prom. Os ydych yn mynd â’ch ci ar y traeth ar Old Golf Road, ewch i’r dwyrain (tuag at Prestatyn) ac yno cewch filltiroedd o draeth di-gyfyngiad.