Dyma rywbeth i godi archwaeth bwyd arnoch chi, sef y prydau y dylech eu blasu wrth i chi ymweld â’n cornel ni o ogledd Cymru. Mae Cymru bellach yn enwog am ei bwyd ac yma yng ngogledd-ddwyrain Cymru rydym yn darparu ar gyfer anghenion bwyd pawb …. ond dyma rai na ddylech eu methu ar eich ymweliad nesaf.
Cafodd y blog bwyd hwn ei greu gan flogwraig o’r DU sef Heather on Her Travels pan oedd yn archwilio bwydydd amrywiol gogledd-ddwyrain Cymru.
Darllenwch am ei profiad [Saesneg yn unig]
(See Itinerary below)
Caws Pob
Saig eiconig yng Nghymru yw Caws Pob (Welsh Rarebit). Mae rhai pobl yn ei ddisgrifio fel ‘Caws ar Dost’ ond mae’n llawer mwy na hynny. Mae’r caws yn cael ei gymysgu gyda menyn a blawd i greu ‘roux’ cyn ychwanegu mwstard, saws Caerwrangon a diferyn o Gwrw Cymreig i greu blas, ac mae’r cyfan yn cael ei wasgaru dros y tost a’i grilio gydag ychydig o gaws ychwanegol ar ei ben (mae’n amhosibl cael gormod o gaws!)
Gallwch flasu’r saig blasus ac eiconig hwn yn Nhŷ ac Ystafelloedd Te Plas Newydd yn Llangollen.
Cawl Cymreig
Mae Cawl Cymreig yn glasur yng Nghymru ac wedi cael ei fwyta gan deuluoedd Cymreig am sawl cenhedlaeth. Mae’r saig hwn yn cyfuno dau gynhwysyn mwyaf poblogaidd Cymru; cig oen a chennin. Mae’r cynhwysion yn cael eu tyfu’n lleol yng Nghymru ac mae’n gawl gwahanol iawn i’r cawl a geir mewn tun. Mae’n cyfuno cig oen, cennin a gwreiddlysiau sy’n cael ei dewychu wedyn â haidd.
Mae’n saig traddodiadol yng Nghymru sydd ar gael i’w fwynhau unwaith eto yn Ystafelloedd Te Plas Newydd yn Llangollen.
Bara Brith a Chacennau Cri
I ddilyn y prif gwrs o Gaws Pob neu Gawl, bydd angen rhywbeth melys arnoch i bwdin. Melysfwyd blasus i gwblhau’r fwydlen Gymreig yw Bara Brith neu Gacennau Cri. Mae cacennau cri yn cael eu pobi â blawd, menyn, siwgr ac mae resins yn cael eu rhoi i mewn i ychwanegu at y blas melys.
Mae bara brith yn hen fwyd traddodiadol arall yng Nghymru. Torth ffrwythau yw Bara Brith sy’n cael ei gwneud â ffrwythau sydd wedi’u sychu ac yna eu mwydo mewn te. Mae’n gacen wlyb a blasus ac mae’n blasu hyd yn oed yn well gyda haenen o fenyn a phaned o de.
Mae amryw o siopau lleol yn gwerthu Bara Brith a Chacennau Cri ond maent ar gael ger Traphont Ddŵr Pontcysyllte.