Y Shippon a Chaffi’r Cowt, Wrecsam yn ennill Her Fwyd Blwyddyn Darganfod!

Cafodd enillwyr her fwyd ‘Blwyddyn Darganfod’ Gogledd Ddwyrain Cymru ei ddyfarnu mewn cystadleuaeth fyw brynhawn dydd Llun.

Cafodd bwyty’r Shippon ym Mharc Gwyliau Plasau yn Wrecsam, a Chaffi’r Cowt yn Amgueddfa Wrecsam eu coroni yn enillwyr ym Mwyty’r Celstryn, ar gampws Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy.

Roedd y bwytai ymysg pedwar a oedd yn cystadlu am y pwdin gorau a’r ‘platiau bychain’ ar ôl sgorio’r marciau uchaf gan dîm o siopwyr cudd yn ystod y mis diwethaf. Y beirniaid lwcus eleni a gafodd flasu’r prydau oedd y prif feirniad Grant Williams o West Arms, Llanarmon DC, Jim Jones Prif Swyddog Gweithredol Go North Wales, Kerry Thatcher o Groeso Cymru, Jane Clough o Blas o Ogledd Ddwyrain Cymru, Angharad Jarvis o Goleg Cambria ac Olivia Lumsden, prif gogydd yng Ngwesty’r Bont Gadwyn.

Year of Discovery 2019 Final
Lord Dafydd Ellis-Thomas with 2019 Winners

Nawr yn ei phumed flwyddyn, derbyniwyd ymgais gan 19 o gaffis a bwytai ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer yr her fwyd boblogaidd, ac roeddent i gyd wedi dylunio pryd newydd a fyddai’n dathlu’r cynnyrch lleol gorau sydd ar gael yn y rhanbarth.

Y pryd o ffriterau afal a chorbys, caws pob Cymreig Knolton Farm a pheli porc Pen-y-Lan wedi cael ymateb cadarnhaol gan gwsmeriaid.

Hefyd yn ymladd i ennill y categori ‘Platiau Bychain’, oedd enillydd her ‘Blwyddyn y Môr’ 2018, Gales o Langollen. Cafodd y bar gwin a bwyty, yr hynaf yng Nghymru, ei sefydlu 40 blynedd yn ôl, ac mae oddeutu 500 o winoedd ar ei lyfrau. Gyda’r enw ‘Blas o Gymru gan Gales’, cynhyrchodd y prif gogydd Jack Hatley, frithyll wedi’i fygu a thortelinni bara lawr, cytled oen Cymreig Dyffryn Dyfrdwy gyda stwnsh pwdin du Home farm Owrtyn a thoesen ffesant Maesmor gyda saws gwin coch, madarch gwyllt a sbigoglys.

Yna dechreuodd y gystadleuaeth bwdin, gyda Chaffi Strawberry Fields yn Bellis Brothers yn gweini pedwar pwdin bychan yn defnyddio cynnyrch wedi’i dyfu adref a ryseitiau o lyfr ryseitiau’r caffi.

Year of Discovery 2019 Final
Year of Discovery 2019 Final

Roedd y ‘Plat o bedwar pwdin’ yn cynnwys tarten Gymreig, cacen gaws mafon, paflofa mefus a chacen foron.
Yn olaf, enw’r pwdin a ddaeth i’r brig gan dîm Caffi’r Cowt yn Amgueddfa Wrecsam oedd, ‘Nefoedd ar y Ddaear’, a oedd yn cynnwys cacen siocled gyfoethog, mafon a hufen iâ espresso Chilly Cow. Dywedodd Karen Harris o’r amgueddfa bod y pwdin yn dathlu amrywiaeth anhygoel yr ansawdd o fwyd yn yr ardal, a daeth ysbrydoliaeth o ddyfyniad Lloyd George am Ddyffryn Ceiriog yn Wrecsam fel ‘darn o nefoedd ar y ddaear’.

Cyflwynodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, dirprwy weinidog dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth, y gwobrau i’r enillwyr. Ychwanegodd; “Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr – roedd y digwyddiad yn dangos cyfoeth ac ansawdd y cynnyrch sydd ar gael yng Nghymru. Mae gwybod lle daw’r cynnyrch yn ychwanegu at y profiad o fwyta – dyma yw hanes y bwyd a diod, ac yn rhywbeth sydd yn gynyddol bwysig i’n hymwelwyr. Mae’r broses wedi ein galluogi i ddarganfod mwy am yr hyn sydd gennym yn lleol.”

Yn siarad ar ran tîm Marchnata Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, ychwanegodd Rheolwr Cyrchfan Wrecsam, Joe Bickerton; “Roedd prydau’r pedwar a ddaeth i’r brig yn rhagorol, ond ar y cyfan, mae’r mis diwethaf wedi rhoi llwyfan i’r holl fwytai a gymerodd rhan elwa o gwsmeriaid newydd a datblygu perthnasau gyda chynhyrchwyr bwyd annibynnol newydd a lleol yn y rhanbarth, a dyma yw prif nod y gystadleuaeth. Rydym nawr yn edrych ymlaen i ddathlu blwyddyn wych arall o dwristiaeth yn y rhanbarth wrth i ni symud ymlaen i gyfnod prysur y Gwanwyn.”

Year of Discovery 2019 Final
Year of Discovery 2019 Final