Yr wythnos hon rydym yn tynnu sylw at fusnes twristiaeth arall yn Sir Ddinbych, sydd wedi bod yn cadw presenoldeb gwe a chyfryngau cymdeithasol cadarnhaol a phrysur yn ystod y cyfnod clo.

Daeth Jamie a Sheena’n berchnogion Cae Einion yng Nghorwen bum mlynedd yn ôl, i gyflawni uchelgais oes i ddod o hyd i le yn y wlad i fagu eu plant, byw oddi ar y tir a rhannu eu cariad o’r awyr agored gydag eraill.

Jamie a Sheena

 

 

 

 

 

 

Ganed The Forge , a thros y blynyddoedd, mae’r cynnig wedi tyfu i gynnwys aros yng nghornel Bwtsias y Gog mewn carafán sipsiwn o’r hen oes, neu bebyll cloch moethus. Maent hefyd yn cynnig pecynnau lle gallwch archebu gweithgareddau, o goedwriaeth i encilion lles.

Maent yn cymryd archebion o fis Gorffennaf, ond yn hyblyg, gan gynnig ad-daliadau a gwneud newidiadau archeb am ddim.

Yn ystod y cyfnod clo, maent wedi mynd ati i ysgrifennu blog am hanes diddorol  y gwnaethant ei chael yn ddiweddar a sut i dyfu eich llysiau eich hunain. Mae eu tudalen Instagram ysbrydoledig yn apelio i bobl leol yn ogystal ag ymwelwyr. Un o’r pethau mwyaf calonogol yw eu cynnig diweddaraf ynghylch sut mae natur yn ffynnu yn yr Efail yn ystod y cyfnod clo, neu’r ‘dad-ddofi tir’ fel y caiff ei adnabod nawr. O ddraenogod yn y gwrychoedd i fwtsias y gog yn eu blodau, mae’r cyfnod hwn                                                         o  ymdawelu yn edrych fel pe bai wedi bywiogi yn y gornel yma o Gorwen

Llun o ty fewn y garafán sipsiwn

Yn eu geiriau eu hunain fodd bynnag, maent yn ‘parhau i fod yn obeithiol’ ond yn methu eu gwesteion, felly byddant yn ‘canolbwyntio ar wneud yr Efail hyd yn oed yn fwy arbennig pan fyddant yn y pen draw yn gallu agor unwaith eto.’

Os ydych yn fusnes sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac os hoffech gael sylw, cysylltwch â ni isod.