Gyda’r cyhoeddiadau yn ystod yr wythnosau diwethaf yn paratoi diwydiant ymwelwyr Cymru i ddechrau ailagor yn araf, mae busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi wynebu eu heriau eu hunain o ran pontio rhwng y cyfnod clo ac ailagor i groesawu ymwelwyr yn ôl i’r ardal yn ddiogel.

Ers mis Mawrth mae gweithredwyr twristiaeth yn yr ardal leol wedi uno i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phartneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam i fwydo i strategaeth Llywodraeth Cymru (Croeso Cymru). Ar ôl wythnosau o ddyfalu ac ansicrwydd am ddyfodol y sector twristiaeth yng Nghymru, roedd y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener yn rhoi rhybudd i rannau dan do y sector twristiaeth i baratoi ar gyfer ailagor ar 3ydd Awst, gyda nifer o leoedd hunan arlwyo ac atyniadau awyr agored yn ailagor o’r wythnos hon.

Er gwaetha’r newyddion mae wedi bod yn gyfnod pryderus i nifer o fusnesau twristiaeth ar draws Cymru, gyda’r sector yn dal i wynebu posibilrwydd o’r hyn sy’n gyfystyr i flwyddyn gyda “thri gaeaf” os na fydd hyder y defnyddiwr yn dychwelyd yn ddiweddarach yr haf hwn, gyda diffyg cyllid i gynnal swyddi dros gyfnod y gaeaf. I helpu gyda hyn, mae nifer o fusnesau twristiaeth ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cofrestru gyda’r cynllun diogel rhag COVID cenedlaethol “barod amdani”, sy’n cydnabod y mesurau diogelwch o’r radd flaenaf sydd wedi eu rhoi mewn grym y tu ôl i’r llenni i roi sicrwydd i ymwelwyr tra’n parhau i ddarparu profiad gwych.

Mae un o barciau gwyliau mwyaf poblogaidd y Sir, Plassey yn Eyton sydd wedi ennill gwobrau, wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni yn barod i groesawu ymwelwyr yn ôl o’r penwythnos hwn

Er gwaethaf ansicrwydd y misoedd diwethaf mae’r perchennog John Brookshaw wrth ei fodd o gael ailagor;

“Rydym wrth ein boddau o gael ailagor ac ni allwn aros i weld ein holl westeion hyfryd unwaith eto. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd iawn ac ar brydiau fe fu’n gyfnod hynod bryderus i’n busnes teuluol ac i’n tîm i gyd sy’n cynnwys dros 40 aelod o staff y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar Barc Gwyliau Plassey. I baratoi ar gyfer ailagor rydym hefyd wedi bod yn rhoi’r holl hyfforddiant a gweithdrefnau angenrheidiol mewn grym i sicrhau ein bod yn Ddiogel rhag Covid-19 ac yn cydymffurfio’n llawn, a gall ein gwesteion ddychwelyd i Plassey mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

Yn Nyffryn Ceiriog mae gwesty enwog yr Hand yn Llanarmon yr wythnos hon wedi derbyn achrediad llawn gan gynllun cenedlaethol “Barod Amdani” a chynllun diogel rhag covid yr AA. Yn ystod y pandemig mae’r tîm hefyd wedi derbyn canmoliaeth uchel am yr ymdrechion i gefnogi’r gymuned leol drwy arallgyfeirio i ddarparu bwyd i fynd heb elw, gan ddarparu cyflenwadau hanfodol a chodi calonnau drwy eu negeseuon hwyliog ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fel lleoedd eraill gyda chyfleusterau awyr agored, mae’r Hand yn paratoi i ailagor yn ddiogel ddydd Llun, ac ychwanegodd y perchennog Jonathan Greatorex;

“Mae wedi bod yn bleser i fod ar gael i’n cymuned wledig, ynysig drwy gydol yr amser anodd hwn. Rydym wedi gweini miloedd o brydau dros yr 14 wythnos ddiwethaf a dwi’n wirioneddol falch o bopeth rydym wedi ei wneud. Mae Grant, ein Prif Gogydd, wedi gweithio’n ddiflino gyda bwydlen oedd yn newid yn ddyddiol i ddarparu bwyd i fynd ac rydym yn edrych nawr ar agor unwaith eto, a hynny yn ddiogel.”

Mae Cadeirydd Partneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam, Sam Regan, wedi wynebu ei heriau ei hun wrth ailagor Bwyty gydag Ystafelloedd y Lemon Tree yn Wrecsam gyda’r rheoliadau a orfodir.

Ychwanegodd Sam;

“Yn y Lemon Tree roeddem bron â chwblhau adeilad newydd ar gyfer 8 o ystafelloedd gwely ychwanegol ac roedd disgwyl i’r rhain ddechrau cael eu defnyddio ym mis Ebrill. Rhoddodd y cynnydd mewn twristiaeth leol yr hyder i ni i wneud y buddsoddiad hwn, felly mae’n mynd i fod yn hanfodol ein bod ni a busnesau twristiaeth lleol eraill wir yn dangos y mesurau diogelu rhag COVID o’r radd flaenaf yr ydym wedi bod yn gweithio’n galed arnynt y tu ôl i’r llenni i sicrhau fod gwesteion yn dychwelyd mor ddiogel â phosibl o fis Awst. Fel Partneriaeth Twristiaeth rydym hefyd wedi ymgysylltu yn ddyddiol gyda Chroeso Cymru a busnesau twristiaeth ar draws yr ardal leol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chipolwg ochr yn ochr â’r Awdurdod Lleol i alluogi’r sector i godi’n ôl yn well ac arbed cymaint o swyddi â phosibl.

Fe fu Aelod Arweiniol yr Economi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Terry Evans, yn cyfarfod gyda nifer o fusnesau twristiaeth ar draws yr ardal leol ddydd Gwener diwethaf a dywedodd;

“Mae wedi fy nharo cymaint o waith sydd wedi ei wneud y tu ôl i’r llenni gan yr holl fusnesau yr wyf wedi ymweld â nhw neu wedi ymgysylltu â nhw dros y misoedd diwethaf er mwyn cadw gwesteion yn ddiogel. Rydym wedi gweithio’n galed i geisio cael eglurder gan Lywodraeth Cymru i achub y sector hwn sy’n dod â dros £130m y flwyddyn i economi Wrecsam ac yn cefnogi dros 1,600 o swyddi llawn amser. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog ymwelwyr yn ôl i’r ardal mewn dull diogel a chyfrifol yr haf hwn i fwynhau nifer o’n hatyniadau yng nghanol y dref a’r atyniadau gwledig a’r lletygarwch eithriadol a gaiff ei gynnig yma ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam”.

Gyda’r rheol 5 milltir nawr yn caniatáu ymwelwyr yn ôl i Gymru a gyda’r sector awyr agored a hunan arlwyo yn ailagor yr wythnos hon, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhagweld dychweliad cyson o ran ymwelwyr dydd a’r rhai fydd yn cael gwyliau gartref. I gyd-fynd â hyn fe fydd Canolfan Groeso newydd a mwy yn agor yn Stryt Caer yn ddiweddarach yn yr Hydref. Bydd yn arddangos y gorau o’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig i ymwelwyr ochr yn ochr ag ystod eang o gynnyrch bwyd a diod lleol.