Blwyddyn y Môr

Ar gyfer Blwyddyn y Môr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru rydym yn dathlu ein Llwybrau at y Môr a’r holl weithgareddau cysylltiedig. Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru mae gennym ni arfordir godidog, afonydd a hyd yn oed Traphont Ddŵr sy’n Safle Treftadaeth y Byd. Y Flash, Wrecsam   Mae’r llyn hwn sydd yn sir Wrecsam yn peri […]

Ar gyfer Blwyddyn y Môr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru rydym yn dathlu ein Llwybrau at y Môr a’r holl weithgareddau cysylltiedig. Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru mae gennym ni arfordir godidog, afonydd a hyd yn oed Traphont Ddŵr sy’n Safle Treftadaeth y Byd.


Y Flash, Wrecsam

 

Flash, Gresford

Mae’r llyn hwn sydd yn sir Wrecsam yn peri syndod i’r rhan fwyaf o bobl gan ei fod mor bell i mewn yn y tir. Ond gyda theithiau cerdded a golygfeydd bendigedig mae’n llecyn perffaith ar gyfer ennyd dawel. Mae’n atgof heddychlon o’n llwybrau at y môr.

Neu dysgwch hwylio ar y llyn gyda Chlwb Hwylio Gresffordd a dewch yn gapten eich hun o dan arweiniad arbenigol!


 

Pysgota am grancod yn y Llyn Morol, y Rhyl

 

1670

Y lle delfrydol i blant geisio chwilio am grancod. Os nad ydych wedi dod â’r offer gyda chi, peidiwch â phoeni gan y gellir prynu unrhyw beth sydd ei angen arnoch yn y siop reilffordd.

Cyngor da: yr abwyd gorau ar gyfer pysgota crancod yw cig moch…..targed da yw 4 i 5 cranc!!

Ar wahân i bysgota am grancod gallwch roi cynnig ar hwylio, canŵio, sgïo dŵr, tonfyrddio, glinfyrddio ac ar gyfer y rhai ohonoch sy’n ddigon mentrus; sgïo dŵr yn droednoeth. Felly gall y Llyn Morol ddarparu ar gyfer pob oed a chwaeth a dyma’r unig lyn dŵr halen yng Ngogledd Cymru (ffaith cwis tafarn).


 

Ymlaciwch o dan y bwâu ym Masn Trefor, Llangollen

 

WHS

Mae gennym ni Safle Treftadaeth Y Byd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru (nid ein bod ni’n brolio!) ond fe allwch brofi Traphont Ddŵr hardd Pontcysyllte o ben y draphont ddŵr yn edrych i lawr neu o’r gwaelod a chael persbectif gwahanol ar bensaernïaeth y safle prydferth hwn.


 

Rhedeg ar hyd ein harfordir ar Draeth Prestatyn

 

1604

Does dim trac sain sy’n fwy ymlaciol wrth redeg na’r môr.

Gyda’n harfordir godidog gallwch redeg am gyfnod byr neu am gyfnod hirach. A gyda chyfleusterau gwych ar hyd yr arfordir, pam na roddwch wobr fach i chi eich hun ar y ffordd!


 

Hedfanwch i’r awyr dros Ddyffryn Dyfrdwy, Llangollen

 

Llangollen

Hedfanwch i’r awyr a phrofwch Ddyffryn Dyfrdwy oddi fry, mae hyn yn oed yn fwy hardd (os yw hynny’n bosibl).

Archebwch le i chi eich hun ar gwrs ac efallai y dewch o hyd i ddiddordeb cudd na wyddoch eich bod yn meddu arno. Neu archebwch le ar daith awyr ar y cyd gyda hyfforddwr cymwys ac eisteddwch yn ôl i fwynhau’r daith a’r golygfeydd heb orfod poeni am y glanio.


 

Beiciwch heibio’r Môr o Harbwr y Rhyl

 

Os nad ydych yn hoff o redeg yna pam na ddewch chi â beiciau’r teulu i Harbwr y Rhyl a theithio ar hyd yr arfordir.

Gyda Chanolfan Feicio’r Rhyl ar agor am baned o de neu hufen ia cyn i chi ddechrau, mae gan Rhyl yr holl gyfleusterau i sicrhau y bydd eich amser ger y môr yn brofiad na fyddwch yn ei anghofio. Ac mae’r Ganolfan Feicio yn llogi beiciau hefyd, felly hyd yn oed os ydych chi’n anghofio eich beiciau personol fe allwn ddarparu ar eich cyfer!


 

Gweld ein traethau o gefn ceffyl yn Nhraeth Talacre

282

Marchogaeth ceffyl ar draeth…ydi hyn yn swnio fel ffordd berffaith o ddianc rhag pwysau’r byd?

  • Gallwch drotian, carlamu neu deithio’n hamddenol ar hyd y tywod hyfryd ar Draeth Talacre, gyda’r môr ar un ochr a’r golygfeydd gwledig ar yr ochr arall. Mae marchogaeth ceffyl ar Draeth Talacre yn brofiad na ddylid ei golli!

 

Dangoswch eich triciau beic ym Marsh Tracks, y Rhyl

 

Oes gennych chi symudiadau BMX da? Neu ydych chi eisiau ymarfer rhai newydd?

Marsh Tracks y Rhyl yw’r lle perffaith ar gyfer beicwyr anturus. Gyda golygfeydd gwych o’r môr, mae Marsh Tracks yn lle gwych i gael lluniau neu fideos anhygoel o’ch triciau gyda chefndir bendigedig i wneud iddynt ymddangos hyd yn oed yn fwy rhyfeddol.

Gyda chylchdaith gaeëdig 1.3km, clwyd gychwyn (yr un fath â thrac BMX Olympaidd 2012) a hyfforddwyr cymwys wrth law, mae’r traciau ar gael i bob lefel ac oed.


 

Rhowch gynnig ar sgïo dŵr yng Nghei Connah

 

River

Ewch i gael hwyl yng Nghlwb Tonfyrddio a Sgïo Dŵr Glannau Dyfrdwy sydd wedi ei leoli ar yr Afon Ddyfrdwy, afon lanw yng Nghei Connah, Glannau Dyfrdwy yng Ngogledd Cymru. Rhowch gynnig ar sgïo dŵr wrth ymgolli yn harddwch Gogledd Ddwyrain Cymru, peidiwch â phoeni os syrthiwch i mewn…..dyna yw hanner yr hwyl!


 

Archwilio Llwybr Beicio Arfordir Gogledd Cymru

 

913

Archwiliwch ein rhan ni o Lwybr Arfordir Gogledd Cymru. P’run ai yw’n well gennych gerdded neu feicio ar hyd y llwybr, cewch olygfeydd godidog o’r arfordir ar un ochr a harddwch cefn gwlad Gogledd Ddwyrain Cymru ar yr ochr arall. Rydych felly yn cael y gorau o’r ddau fyd.

Os hoffech ymestyn eich taith gerdded yna o Brestatyn gallwch ymuno â llwybr Clawdd Offa i lawr ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr a chael y teimlad rhyfedd o gael dwy wlad wahanol bob ochr.


 

Nofio yn y Môr ar draeth Baner Las Prestatyn

 

1117

Mae’r tywod ar Draeth Baner Las Prestatyn yn ymestyn am 5 milltir.

Mae traeth Prestatyn yn boblogaidd gydag ymwelwyr am ei brydferthwch a’i amryw o weithgareddau hamdden fel hwylio a bordhwylio, ac felly mae’n llecyn perffaith y bydd y teulu cyfan yn ei fwynhau.


 

Mwynhewch hufen ia ar hyd Llwybr yr Arfordir, y Rhyl

 

3189

Mae pawb yn hoff o hufen ia ar y traeth….hyd nes y bydd yr oerni’n mynd trwyddoch!

Gyda nifer o fusnesau lleol ar hyd Llwybr yr Arfordir yn cynnwys caffis, bariau, bwytai a’r arcêd yn y Rhyl, mae arfordir Gogledd Ddwyrain Cymru yn lle perffaith i’r teulu, a bydd digon i ddiddanu’r plant am oriau.

Ewch i gael blas ar Flwyddyn y Môr!


 

Rhoi cynnig ar rywbeth newydd ar Gynffon y Sarff, Llangollen

 

Ydych chi erioed wedi rhoi cynnig ar badlfyrddio gan sefyll??

P’run ai ydych chi’n newydd i’r gamp neu wedi hen arfer, ac yn gallu padlo’n sefyll neu ar eich penglin, gyda neu heb gi, mae padlfyrddio yn Llangollen yn addas i bob lefel o ran hyder. Mae’n ffordd berffaith o brofi Blwyddyn y Môr a’ch galluogi i arnofio’n braf oddi wrth holl bwysau’r byd.

I badlfyrddwyr mwy profiadol a hyderus, gallwch brofi antur yr Afon Ddyfrdwy ac yn fwy penodol Cynffon y Sarff….mae’r enw yn swnio’n gyffrous hyd yn oed!


 

Archwilio Abaty Dinas Basing, Treffynnon

 

trhrth

Gweddillion sylweddol abaty Sistersaidd, a sefydlwyd yn wreiddiol fel tŷ urdd Savigny yn 1131, a’i ailfodelu yn y drydedd ganrif ar ddeg ac yn ddiweddarach.

Ymwelwch â’r safle hanesyddol hwn am ddim a dysgwch am ei bwysigrwydd o fewn y parc treftadaeth godidog ym Maes Glas, Wrecsam.


 

Tynnwch hunlun trawiadol ar Fwlch yr Oernant, Llangollen

 

824

Gyda golygfeydd gwych, mae Bwlch yr Oernant wedi bod yn lleoliad sawl hunlun epig gan ei fod yn cynnig golygfa agored o fryniau Dyffryn Dyfrdwy.

Wedi ei leoli ar y ffordd i Langollen, yn union ar ôl Caffi Ponderosa, mae’r lleoliad hwn yn un o’r lleoedd lle tynnir y nifer fwyaf o luniau yn Sir Ddinbych ac mae’n boblogaidd gyda ffotograffwyr lleol a gwneuthurwyr ffilm. Unwaith y cyrhaeddwch y pwynt bendigedig hwn yna fe fyddwch yn deall pam ei fod mor boblogaidd.