Cewch hyd i anrhegion unigryw, o gynnyrch Wrecsam Lager i lwyau caru, ffigurau glo a chardiau, gwydr a thalebau rhodd, yn ogystal â dreigiau a dinosoriaid – yn sicr, mi fydd yna rywbeth i bob aelod o’r teulu.
Ac am y tro cyntaf eleni bydd gennym ni anrhegion blasus iawn, pob un yn cynnwys cynnyrch lleol a Chymreig. Mae ein dewis newydd o fasgedi bwyd ar gael rŵan, o fasgedi gyda chynnyrch traddodiadol Cymreig i fasgedi efo llymaid bach – yr anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur. Gallwch archebu basged yn barod ar gyfer y Nadolig rŵan yng Nghaffi’r Cowt yn Amgueddfa Wrecsam. Ffoniwch 01978 297469 neu galwch i mewn i weld y basgedi sydd gennym ni.