Digwyddiadau Hydrefol

Nid yw Gogledd Ddwyrain Cymru yn cau yn y gaeaf (nid fel y mae pawb yn ei feddwl). Mae rhai digwyddiadau gwych yn cael eu cynnal yng nghanol y coed hydrefol â’r dail yn disgyn. O wyliau bwyd, i wyliau teulu chwedlonol, a rhai digwyddiadau ymarfer corff llawn hwyl, byddwch yn wirion i feddwl bod […]

Nid yw Gogledd Ddwyrain Cymru yn cau yn y gaeaf (nid fel y mae pawb yn ei feddwl). Mae rhai digwyddiadau gwych yn cael eu cynnal yng nghanol y coed hydrefol â’r dail yn disgyn. O wyliau bwyd, i wyliau teulu chwedlonol, a rhai digwyddiadau ymarfer corff llawn hwyl, byddwch yn wirion i feddwl bod ein cornel ni o Ogledd Cymru yn cau dros yr Hydref.

Mythfest: Gŵyl Deulu

Mythfest Wales - Autumn Events
Mythfest Wales – Autumn Events

Ymunwch â’r antur awyr agored hudol 3 awr hon i ymgolli’n llwyr fel teulu mewn straeon, cerddoriaeth a crefftau naturiol gyda chreaduriaid chwedlonol lleol o ddyfroedd gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd y digwyddiad hwn yn eich trochi mewn gweithgareddau adrodd storïau a chrefftau a chewch gyflwyniad i rai o’n cymeriadau a’n creaduriaid lliwgar sy’n dod o orffennol mytholegol gogledd-ddwyrain Cymru.

Dyddiad y Digwyddiad: Dydd Sul 16 Medi (Coedwig Clocaenog), dydd Sul 30 Medi (Llaneurgain)

 

Gŵyl Fwyd Wrecsam

Wrexham Food Festival
Wrexham Food Festival – Autumn Events

Bydd Gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam 2018 yn well nag erioed o’r blaen, gyda neuadd gwrw a rhaglen brynhawn a nos estynedig gyda cherddoriaeth fyw.
Bydd Gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam ar ei newydd wedd yn dychwelyd i’r dref eleni – bydd y digwyddiad yn cynnwys neuadd gwrw am y tro cyntaf a rhaglen brynhawn a nos estynedig gyda cherddoriaeth fyw.

Dyddiad y Digwyddiad: Dydd Sadwrn 22 Medi 2018

 

Gŵyl Gwrw Dinbych

Denbigh Beer Festival - Autumn Events
Denbigh Beer Festival – Autumn Events

Dyma’r 15fed Ŵyl Gwrw Elusennol Flynyddol wedi’i threfnu gan Fwrdd Crwn Dinbych er mwyn casglu arian at elusennau lleol ac achosion da o fewn y gymuned.

Cewch flas ar gwrw lleol arbennig a mwynhau cerddoriaeth ac adloniant byw a fydd yn eich ysgogi i symud a dawnsio yn neuadd hanesyddol y dref ar dopiau Dinbych. Bydd yr elw yn mynd i elusennau, felly gallwch fod yn sicr y cewch amser gwerth chweil a hynny at achos da!

Dyddiad y Digwyddiad: Dydd Sadwrn 22 Medi 2018

 

Gŵyl Fwyd Llangollen

Llangollen Food Festival - Autumn Events
Llangollen Food Festival – Autumn Events

Mae Gŵyl Fwyd Llangollen yn dathlu’r cynnig bwyd Cymreig i ymwelwyr Llangollen.

Bydd arddangoswyr bwyd yn cyflwyno eu talent a’u bwyd a chewch gipolwg go iawn ar fwyd lleol Cymreig a dysgu pethau newydd i’w gwneud yn y gegin drwy wylio’r arddangosfeydd. Hefyd yn yr ŵyl, bydd cerddoriaeth fyw a fydd yn sicr o’ch helpu i losgi’r holl fwyd y byddwch wedi ei flasu gydag ychydig o ddawnsio yn Nyffryn Dyfrdwy.

Dyddiad y Digwyddiad: 13 – 14 Hydref

 

Rhedeg Llwybrau Loggerheads

Loggerheads Trail Running - Autumn Events
Loggerheads Trail Running – Autumn Events

Mae’r digwyddiad 5 a 10k yn Loggerheads wedi hen sefydlu bellach ac yn cael ei gynnal bob mis Mawrth, ond nawr mae ras ‘filltir’ gyfatebol – yn rhoi’r dewis o lwybr ychydig yn hirach i redwyr llwybr, gyda llwybr cystal, os nad gwell ar hyd y ffordd!

Dyddiad y Digwyddiad: 13 – 14 Hydref

Ras Fynydd Bryniau Clwyd

Clwydian Hills Fell Race - Autumnal Events
Clwydian Hills Fell Race – Autumnal Events

Os nad ydych wedi ymweld â, na chlywed am Fryniau Clwyd, mae’n rhaid i chi fynychu’r digwyddiad hwn, oherwydd dyma’r gadwyn o fynyddoedd hawsaf eu cyrraedd yng Ngogledd Cymru, ac mae’n sicr yn lleoliad perffaith ar gyfer ras fynydd. Caiff ei chynnal ym mis Hydref felly gallwch fod yn sicr na fydd hi’n hynod o boeth ac na fyddwch yn chwysu chwartiau. Mae’r ras sydd wedi hen sefydlu bellach yn ymarfer corff gwych ar gyfer mis Hydref, a bydd yn herio bob cornel o’ch ffitrwydd – ond coeliwch chi ni, byddwch yn teimlo’n wych wedi i chi ei chwblhau!

Dyddiad y Digwyddiad: Dydd Sul 21 Hydref