Mae rhan o ffin Sir Ddinbych yn meddu ar rai o’r traethau gorau yng Nghymru. Beth am hel atgofion yn Rhyl neu Brestatyn ar eich gwyliau gartref gyda bwced a rhaw ar lan y mor, yn ogystal a thraethau eraill tawelach yn hytrach na’r traethau prysurach yng Ngorllewin Cymru.

Dyma brif draethau Rhyl…

Mae traeth Gorllewin Rhyl yn mhen gorllewinol Rhyl o’r Harbwr at Y Pentref.    Rhwng y Parc Drifftio a’r pentref, mae traeth delfrydol am ddiwrnod ar lan y môr yn gwneud cestyll tywod, trochi yn y môr a thorheulo, yn ogystal â chael lle chwarae i blant, ond peidiwch ag anghofio’r eli haul!     

Peidiwch â chael eich temtio i nofio ger yr harbwr gan fod gan yr afon Clwyd gerrynt cryf yno all achosi trafferthion i rai, ac mae cychod yn hwylio i mewn ac allan o’r harbwr hefyd. Mae modd llogi beiciau yn yr Hwb Beiciau sydd yn harbwr y Rhyl, ger Pont y Ddraig, y bont newydd eiconig i gerddwyr a beicwyr. Y drws nesaf i’r Siop Feiciau mae Caffi Hwb yr Harbwr. Gallwch logi beiciau bob dydd o’r flwyddyn yn yr Hwb fel y gallwch fanteisio i’r eithaf ar lwybr beiciau cenedlaethol Rhif 5 am filltiroedd o feicio di-draffig i’r teulu cyfan.

Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am hynny, edrychwch ar rai o’r sylwadau ar Trip Advisor. Wrth i’r cyfyngiadau barhau i godi a ninnau’n cael trefnu gwyliau byr ac ambell drip diwrnod, efallai y bydd yn fanteisiol ymweld a’r traethau llai prysur am ychydig o haul, hwyl a heli.

Dyfyniad oddi ar Trip Advisor am Orllewin Rhyl “Hardd ar gychwyn mis Mawrth ar ddiwrnod heulog braf. Byddai fy nghi wrth ei fodd yma! Sawl un allan yn mynd am dro hefo’r ci a digon o olygfeydd gwych o’r môr a’r fferm wynt ar y gorwel. Wedi mwynhau taith gerdded o gwmpas trwyn Horton gyda golygfa ar hyd y traeth.”   Gan beckyx1991, St Helens.

Mae Rhyl Canolog gyferbyn a’r Stryd Fawr, a dyma draeth prysuraf y Rhyl ac mae’n lle da i ymdrochi. Yn ystod tymor yr haf bydd achubwyr bywyd yn cadw llygad arnoch i sicrhau eich bod yn ddiogel yn y dwr a hyd y traeth, er mwyn i chi fwynhau eich ymeliad. Mae’r traeth canolog hefyd yn darparu cyfleusterau Pêl Foli Traeth a Phêl Droed am ddim tra mae’r achubwyr bywyd ar ddyletswydd.  Gwiriwch amseroedd y llanw fel na chewch eich dal ar fanc tywod pan fydd y llanw’n dod i mewn.

Mae traeth Dwyrain y Rhyl yn ymestyn o orsaf yr achubwr bywyd hyd at Old Golf Road, gyda digon i’w wneud gyda pharth crefftau ar gyfer gweithgareddau’r traeth fel hedfan barcud, syrffio a caiacio <https://www.prokitesurfing.co.uk/>.  Gallwch logi Cadeiriau Olwyn i fynd ar Dywod o’r ganolfan Syrffio Barcud.

 

Dyfyniad Trip Advisor am draeth Dwyrain y Rhyl “Traeth hyfryd. Daethom yma ar ein gwyliau teulu cyntaf a threulio amser ar y traeth. Traeth braf a glân. Rydym ni wrth ein bodd gyda’r ardal hon. Mae’r plant yn hapus yn chwarae yma.” Gan Jim4587

Dyma brif draethau Prestatyn…

Mae Traeth Barkby yn byrlymu o weithgarwch cychod a chrefftau, ac yno mae Clwb Hwylio Prestatyn a glanfa gychod ac am y rheswm hwn  does dim nofio yn yr ardal hon, ond mae’r traeth yn ddelfrydol ar gyfer adeiladu castell tywod neu i fwynhau’r tywydd. 

Dyfyniad Traeth Barkby, Prestatyn. “Traeth gwych, wedi aros yng ngwesty Beaches ar y traeth, hyfryd a glân i blant. Mae mor anghyffredin darganfod lle mor heddychlon.” Gan ABCDEF1956

Traeth Canolog yw prif draeth Prestatyn ac mae’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Gallwch gyrraedd y traeth o feysydd parcio Dwyrain a Gorllewin Nova. Mae hefyd yn ardal ble mae’r achubwyr bywyd i’w gweld yn ystod tymor yr haf. Os ydych yn bwriadu mynd i nofio cofiwch wirio baneri’r achubwyr bywyd i weld ydy hi’n ddiogel, a darganfod y lle gorau i nofio. Os nad ydych yn siŵr, gallwch siarad gydag achubwr bywyd a byddant yn falch o helpu. Mae gan y Traeth Canolog gawodydd awyr agored, caffis a lle chwarae. Mae Beach Hut Nova yn darparu prydau sydyn. Gyda mwy a mwy o bobl yn penderfynu treulio gwyliau gartref, mae ymwelwyr yn chwilio am gyrchfannau o ansawdd uchel.   Mae gan y Traeth Canolog wobr Baner Las sy’n cael ei rhoi am y dwr ymdrochi o’r ansawdd gorau, addysg a rheolaeth amgylcheddol, diogelwch a gwasanaethau.

Dyfyniad Trip Advisor traeth Barkby, Prestatyn. “Traeth bach gwych, gyda chreigiau ‘r plant chwilio am grancod ayyb. Mae yma dafarn, arcêd, a pharc, siop hufen iâ a chaffi.” Gan annma1970

Mae traeth Ffrith ar ben gorllewinol Prestatyn. Mae wedi ei rannu yn ddau barth – Traeth Gorllewin Ffrith sy’n ymestyn o’r Cwrs Golff at fynedfa Parc Hwyl Traeth Ffrith. Mae’r ardal hon wedi ei marcio gyda mynediad ar lethr o’r promenâd sy’n ei gwneud yn haws i bobl gyrraedd y traeth. Mae’r traeth hwn yn rhan o’n hardal addas i gŵn ac mae croeso i ddod â’ch ci yma i gael ymarfer unrhyw bryd. Mae’r ardal i’r dwyrain o lithrfa Ffrith sy’n cychwyn o Ddwyrain Parc Hwyl Traeth Ffrith yn mynd heibio Tower Gardens ac at Faes Parcio Gorllewin Nova, ac y lle mwy poblogaidd sy’n eich arwain at y prif draeth ym Mhrestatyn Canolog. 

Dyfyniadau Trip Advisor am Draeth Ffrith “Parc heddychlon i’r gymuned gyfan. Dyma un o’r parciau mwyaf heddychlon yn y rhan hon o arfordir Gogledd Cymru. Cafodd ei adeiladu gan yr awdurdod lleol rai blynyddoedd yn ôl am gryn gost ac mae bellach yn hafan i ymwelwyr a bywyd gwyllt, neu fynd â’ch ci am dro. Mae’n werth mynd yno. Mae’r ardal tir comin wedi cael gwobr y Faner Werdd dros y 10 mlynedd diwethaf.” Gan 770lewisk 

a

 “Traeth Ffrith ydy un o’r traethau gorau’r ardal, ac mae’r arwyneb yn newid yn hyfryd o hyd. Un diwrnod bydd yn gwbl llyfr a’r nesaf bydd storm wedi ei chwalu a dwyn ychydig o’r tywod, ac yna’r diwrnod wedyn bydd yn llyfn eto. Mae’n draeth glân iawn. Does fawr o sbwriel i’w weld yma. Mae’r bobl leol yn glanhau’r traeth yn aml ac yn falch iawn o ofalu am eu traeth.” Gan Jim3k90

 

Mae croeso i gŵn ar draethau’r Rhyl a Phrestatyn.  Ond, nid yw pawb yn hoffi cŵn, felly yn ystod misoedd prysur yr haf, dim ond i rai rhannau o’r traeth y cewch fynd â’ch ci. O’r 1af Hydref – 30ain Ebrill: gallwch fynd â’ch ci i unrhyw le ar y traeth, ond rhwng 1af Mai – 30ain Medi: mae cyfyngiadau mewn lle. Splash Point yw’r traeth sy’n caniatáu cŵn, a dyma ble gall cŵn ymarfer unrhyw bryd. Os ydych cyn mynd â’ch ci ar y traeth yn Old Golf Road, ewch tua’r dwyrain (tua Phrestatyn) ac mae yna ychydig filltiroedd o draeth ble gallwch fynd heb gyfyngiad ac hefyd yr ardal i’r dwyrain o’r Clwb hwylio yn Nhraeth Barkby, Prestatyn. Mae arwyddion a mapiau ar y traeth i help i ddangos i chi ble gallwch fynd â’r ci yn ystod misoedd yr haf.

Gallwch hefyd feicio ar ein traethau gyda llwybr Arfordir Gogledd Cymru drwy fynd ar hyd Llwybr Beicio 5 cyn Prestatyn.  Mae’r llwybr yn mynd a chi drwy’r cwrs golff cyn troi am lan y môr. Cewch feicio ar hyd yr arfordir ar bromenâd tywodlyd hardd a’r tonnau’n torri ar y traeth ychydig lathenni i ffwrdd am 17 milltir hyfryd. Weithiau bydd traeth tywodlyd, a thro arall graean mân, ac amddiffynfeydd creigiog weithiau. Mae’r rheilffordd wrth eich ymyl yn gyson a byddwch yn gallu teithio’n rhwydd i’r Rhyl, Bae Cinmel a Phensarn. Mae’n darmac llyfn gydag ambell dro i gadw pethau’n ddiddorol. Mae’n eich tywys ar draws aber yr afon Clwyd at y Rhyl; drwy gyfrwng Pont y Ddraig a agorwyd yn 2013, sy’n codi i adael i gychod hwylio i mewn ac allan o’r harbwr.

 

 Dewch draw yn ddiogel a chyfrifol drwy

  • Roi eich sbwriel yn y bin neu fynd â fo adref gyda chi
  • Peidiwch â chynnau tân na barbeciw yng nghefn gwlad
  • Parciwch yn y mannau parcio’n unig
  • Cynlluniwch eich trip yn dda er mwyn parchu trigolion lleol
  • Cadwch eich ci ar dennyn o amgylch anifeiliaid
  • Cadw pellter cymdeithasol