Fel y mae llawer o fusnesau eraill wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnod cloi, mae Denbighshire Leisure Ltd (DLL) mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych wedi’i ddefnyddio fel cyfle i wella eu hatyniadau presennol. Mae dros 400 mil wedi’i fuddsoddi i wella profiad cwsmeriaid yn Theatr Pafiliwn y Rhyl. Mae system P.A newydd sbon wedi’i chyflwyno i wella ansawdd sain yr awditoriwm, yn ogystal â system docynnau newydd sy’n hawdd ei defnyddio ac ail neud llawr gwaelod yn llwyr.
Bydd gan y rhai sy’n mynd i’r theatr amrywiaeth gyffrous o enwau gorau i edrych ymlaen a’r adeg pan fyddant yn ymweld â Theatr y Pafiliwn y flwyddyn nesaf, gan gynnwys Jimmy Carr, Rob Brydon, Toploader a Blood Brothers i gyd, gyda thros 98% o sioeau wedi’u gohirio yn dilyn cyfyngiadau Covid-19, sydd bellach wedi’u had-drefnu ar gyfer 2021. Ellwch bookio fan hyn.
Draw yn ne’r sir, mae Pafiliwn Llangollen hefyd wrthi’n cael ei adnewyddu’n debyg.
Mae DLL wedi agor eu holl Ganolfannau Hamdden a’u pwllau ar wahân i Corwen sydd hefyd yn cael ei adnewyddu . Mae’r Ganolfan Grefftau yn Ruthin hun wedi agor ac eisoes wedi cynnal rhai lansiadau, sgyrsiau a gweithdai gyda pellter cymdeithasol llwyddiannus. Mae Sc2 yn y Rhyl wedi’i archebu’n llawn ers ailagor gyda pharc dŵr dan do ac awyr agored ar agor yn ogystal â’r Ninja TAG .
Maent yn bwriadu agory bwyty 1891 yn fuan, yn barod i gynnig rhai digwyddiadau Nadolig.
Yn ogystal â gwella atyniadau presennol, mae DLL hefyd wedi agor bwyty awyr agored newydd sbon gydag arddull cwt traeth, a nodwyd gennym yma ychydig wythnosau’n ôl, ers ei hagor mae wedi cael adborth cadarnhaol yn gyson.
Y flwyddyn nesaf hefyd, mae Sioe Awyr y Rhyl, sydd hefyd yn cael ei trefnu gan DLL a wedi ennill gwobrau yn dod yn ol ac yn addo y bydd yn well nag erioed gan eu bod yn cydnabod pwysigrwydd digwyddiad fawr i’r ardal sy’n sicrhau bod Sir Ddinbych yn parhau gyda chynnig Twristiaeth cryf a bywiog yn dilyn y pandemig.