Gallwch archwilio Gogledd Ddwyrain Cymru dros benwythnos gyda’r amserlen bosibl hon. Byddai hon yn amserlen berffaith ar gyfer taith mewn car gan fod ein cornel o Ogledd Cymru yn fwy nag ydych yn ei feddwl.
Fe luniwyd yr amserlen hon gan y Blogiwr o’r DU Heather on Her Travels pan aeth i archwilio Gogledd Ddwyrain Cymru dros benwythnos.
Darllenwch am ei profiad [Saesneg yn unig]
(See Itinerary below)
Aros:
Treuliwch y penwythnos yn Llyfrgell hyfryd Gladstone, ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint. Gyda phensaernïaeth hyfryd a’r bistro Food for Thought, mae’r llyfrgell hon yn adeilad unigryw iawn (mae bwyd ar gael yn y Glynne Arms ym Mhenarlâg hefyd)
Diwrnod 1
Bore –
Ewch i Draphont Ddŵr Pontcysyllte (rhan o’r Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir). Mae’r safle hon wedi’i dynodi yn 2009, ac mae’r Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir yn rhoi cipolwg i chi ar harddwch Dyffryn Dyfrdwy yr holl ffordd i’r ffin gyda Lloegr.
Amser Cinio –
Ewch am dro o amgylch tref marchnad hardd Llangollen ac ewch i Reilffordd Llangollen i ddysgu am ei hanes. Ewch am dro bach (neu daith mewn cwch) ar Lanfa Llangollen ac ewch i Raeadr y Bedol sy’n dechrau’r Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir.
Ewch am bryd o fwyd yn y Corn Mill neu Ystafell De Old Station, gan fod y rhain drws nesaf i Afon Dyfrdwy bwerus, sy’n rhannu’r dref.
Prynhawn –
Mae’n hanfodol ymweld â safleoedd treftadaeth mwyaf poblogaidd yr ardal. Gyda Phlas Newydd, Castell y Waun ac Abaty Glyn y Groes, bydd gennych ddigon o ddewis gan fod y safleoedd hyn yn agos at Langollen.
Neu os ydych am gael taith fwy anturus, gallech fynd ar Drên Stêm Llangollen i lawr i Gorwen ac yn ôl a phrofi harddwch Dyffryn Dyfrdwy.
Diwrnod 2
Bore –
Ewch am dro yn y car i’r gogledd o Benarlâg i Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon a gallwch ymdrochi neu yfed o’r dŵr sanctaidd ffres. Yna ewch i’r traeth yn Nhalacre i fynd am dro tawel drwy’r twyni tywod a chael tynnu llun gyda’r goleudy hardd. Ewch i lawr llwybr yr arfordir i gyrraedd trefi glan y môr y Rhyl a Phrestatyn.
Gyrrwch i dref marchnad Rhuthun.
Amser Cinio –
Mae digonedd i’w wneud yn Rhuthun, gan ei fod yn llawn bwytai a chaffis, o fwytai cadwyn enwog i gaffis lleol.
Mae Rhuthun yn dref wych yng Ngogledd Cymru am bethau i’w gwneud hefyd, mae Carchar Rhuthun ar agor i’r cyhoedd ac mae’n werth ei weld, a gyda Nantclwyd y Dre, gallwch gael taith drwy amser a phrofi hanes mewn tref rhyfeddol.
I rai sy’n hoff o gelf, mae Canolfan Grefft Rhuthun sy’n cynnwys llawer o waith gan artistiaid lleol a gallwch fynd i Cafe R sy’n rhan o’r adeilad i orffen eich antur gyda phaned o de a chacen.
Prynhawn –
I orffen eich penwythnos, mae’n well i chi wneud amser ar gyfer y pethau nad oeddech wedi gallu eu gwneud y diwrnod blaenorol. P’un a fyddwch yn mynd i ymweld â’r safleoedd treftadaeth na welsoch, Plas Newydd, Castell y Waun neu Abaty Glyn y Groes, neu archwilio mwy o’r arfordir yn y Rhyl a Phrestatyn.
Os ydych yn ymweld â Gogledd Ddwyrain Cymru heb gar, byddem yn awgrymu dewis Llangollen fel canolbwynt, gan fod llawer i’w weld o fewn y dref ac o’i hamgylch.