Agorodd Amgueddfa Corwen yn 2015 fel arddangosfa dros dro yn dathlu Corwen fel Tref Rheilffordd, i gyd-fynd â dychweliad y trên i  Gorwen ar ôl 50 mlynedd.  Roedd yr arddangosfa mor llwyddiannus nes y penderfynwyd ei wneud yn barhaol ac felly ganwyd yr Amgueddfa.  Mae’r arddangosfa nawr yn cael ei harddangos i fyny’r grisiau, tra bo i lawr y grisiau yn adrodd hanes a threftadaeth ardal hyfryd a gwledig Edeirnion yn Ne Sir Ddinbych.  Maent yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr yn unig. .

Maent fel arfer yn agor rhwng mis Mawrth a mis Hydref, gan ddefnyddio misoedd y gaeaf i greu arddangosfeydd newydd ar gyfer y tymor dilynol.  Nid oedd 2019/2020 yn eithriad ac fe weithiodd y gwirfoddolwyr yn galed ar yr arddangosfeydd i adrodd hanes y Faciwîs yng Nghorwen yn yr Ail Ryfel Byd.  Gyda chefnogaeth AHNE Dyffryn Dyfrdwy drwy eu Prosiect Tirlun Darluniadwy, a chymdeithas Cowper Powys, gwnaethant hefyd greu arddangosfa yn seiliedig ar artistiaid ac awduron sydd â chysylltiad i Edeirnion. Roedd y penwythnos agoriadol yn hynod o lwyddiannus.

Trefnon nhw gystadleuaeth ar gyfer y plant ysgol lleol, a gofyn iddyn nhw greu llun o’u hoff dirlun lleol. Cafodd y rhain eu harddangos. Roedd safon y gwaith yn hynod o dda, ac roedd yn deyrnged wych i arddangosfa’r Amgueddfa o brintiau tirwedd leol gan M Turner, Moses Griffiths, John Ingleby ac Edward Pugh.

Fe gaeodd yr Amgueddfa ddydd Sadwrn 14 Mawrth oherwydd y Coronafeirws.  Mae nifer o’u gwirfoddolwyr dros saith deg oed ac yn agored i niwed a doeddent ddim eisiau eu rhoi mewn perygl. Gan y byddai cadw pellter cymdeithasol wedi difetha’r profiad o ymweld â’r Amgueddfa a nifer bach iawn o’r gwirfoddolwyr fyddai wedi gallu stiwardio’r ymwelwyr yn ddiogel; mae’n chwith gan yr Amgueddfa orfod penderfynu na fyddant yn ail-agor tan o leiaf Gwanwyn 2021.

Mae’r Amgueddfa wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o gwrdd â’u bwriad o addysgu’r cyhoedd am ardal Edeirnion. Dros y tri mis diwethaf maent wedi bod yn cyhoeddi eitemau o ddiddordeb yn ddyddiol ar dudalen Facebook Amgueddfa Corwen a chadw eu gwefan wedi ei ddiweddaru.  Mynychodd dri o’r gwirfoddolwyr hyfforddiant gan Gasgliad y Werin Cymru ar ddigideiddio lluniau ac maent bellach yn defnyddio hyn fel platfform i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr wrth iddyn nhw ddechrau mewnbynnu eu casgliad. Bydd hyn yn cymryd amser ond bydd yn arwain at archif barhaol lle bydd mynediad iddo yn hawdd ac am ddim i bawb ac sydd am uwchraddio proffil Amgueddfa Corwen.

Gan na fydd pobl yn gallu dod i’r Amgueddfa byddant yn mynd allan i’r bobl.  Maent yn cysylltu â pherchnogion siopau gwag yng Nghorwen i ofyn a allant roi eu harddangosfeydd yn eu ffenestri a hoffant arddangos byrddau arddangos gwrth-dywydd ar waliau gwag y dref i ddangos lluniau ‘ddoe a heddiw’ o’r adeiladau a’r dref.  Maent yn bwriadu gwneud Amgueddfa allanol o’r dref, yn adrodd straeon Corwen i’r bobl leol ac ymwelwyr wrth iddynt grwydro’r siopau a’r busnesau.

Mae croeso i chi gysylltu isod os hoffech gael sylw.