Roedd manorhaus Rhuthun wedi bwriadu gwneud gwaith atgyweirio ers amser, ac roedd cynlluniau i wneud y gwaith dros dymor Gaeaf 2020/2021; ond oherwydd y cyfnod clo, penderfynwyd gwneud y gwaith yn gynt yn y flwyddyn!

Y cynllun oedd gwneud lle ar y llawr gwaelod er mwyn cael ystafell wely ychwanegol i’w gosod (dyma rywbeth sydd wedi ei wneud yn manorhaus Llangollen ac mae wedi bod yn ychwanegiad llwyddiannus at eu dewis o ystafelloedd).

Er mwyn gwneud hyn, roedd yn rhaid iddynt symud eu toiledau, y bar, y lolfa a’r bwyty ar lawr gwaelod y prif adeilad, oedd yn galluogi iddynt droi’r bwyty yn ystafell wely. Doedd dim angen gwneud unrhyw waith strwythurol mawr a doedd dim angen unrhyw ganiatâd cynllunio, ond roedd hon yn rhaglen 12 wythnos heriol.  Heb help contractwyr allanol, a gyda’r rheolwr o Langollen wrth law i helpu gyda’r gwaith dymchwel (cafodd ei adleoli yn ystod y cyfnod clo yn Rhuthun i helpu yn hytrach na chael ei roi ar ffyrlo), aethant ati yn ddi-oed!

 

Estynnwyd y rhaglen 12 wythnos gan ei bod yn amlwg nad oedd y cyfnod clo yn mynd i’w galluogi i agor yn fuan – felly ychwanegwyd y gegin at y rhestr o bethau oedd angen eu hadnewyddu, gyda ffan a gorchudd newydd uwch y popty, a gorchuddion wal plastig hawdd eu glanhau o’r llawr at y nenfwd.

Mae’r edrychiad newydd yn ffasiynol ac yn ffres, ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt yn arbennig ar gyfer digwyddiadau preifat lle bydd gan ymwelwyr sy’n archebu digwyddiad sinema preifat fan penodol i fwynhau diod cyn / ar ôl gweld y ffilm.

Ni fydd yr ystafell wely ychwanegol yn cael ei chreu tan y Gaeaf, ond mae’r gwaith paratoi wedi ei wneud er mwyn gwneud y busnes yn fwy cynaliadwy gyda’r ystafell ychwanegol, dros beth allai fod yn gyfnod heriol i’r sector a’u busnesau yma yng Ngogledd Cymry.

Mae croeso i chi gysylltu isod os hoffech gael sylw.