Mewn cydweithrediad ag ymgyrch Croeso Cymru ar gyfer dychwelyd cyfrifol diogel i ymwelwyr i Gymru, rydym yn gofyn i’n preswylwyr a’n hymwelwyr i wneud eu haddewid i Gymru fel ei fod yn lle diogel i bawb ymweld wrth i gyfyngiadau gael eu codi’n araf.

 

Felly, beth ydym yn ei ofyn?

Gofalu am ein gilydd

I ofalu am eich iechyd eich hun drwy olchi a diheintio eich dwylo yn aml.  Cadw pellter diogel oddi wrth bobl eraill /grwpiau drwy ddewis mannau agored a pharchu rheolau lleol a gweithredu ar unwaith os nad ydych yn teimlo’n dda, drwy ddilyn cyngor, rhannu gwybodaeth a dychwelyd gartref os byddwch angen. 

Gofalu am ein Gwlad Epig

Drwy ofalu am ein tir bendigedig drwy beidio gadael unrhyw olion. Gofalu am gefn gwlad drwy gadw ar lwybrau, gadael giatiau fel yr ydych yn eu gweld a chadw cŵn ar dennyn pan fydd angen.  Croesawu ein mannau agored bendigedig drwy osgoi ardaloedd prysur, cynllunio ymlaen llaw drwy wirio diweddariadau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gwybodaeth maes parcio a pharatoi ar gyfer antur boed law neu hindda.

Hefyd, peidiwch ag anghofio gofalu am ein cymunedau

Dewch yn rhan o Ogledd Ddwyrain Cymru drwy fwynhau’r diwylliant a’r iaith. Dewiswch fusnesau lleol drwy brynu cynnyrch lleol ac ymchwilio ac archebu ymlaen llaw ble bynnag fyddwch chi’n gallu gwneud hynny.

Ar hyn y bryd gallwch ymweld â Chymru os ydych yn byw yng Nghymru.

Croesocymru.com/addewid

#visitwalessafely #addo

  

llun o coedwig Llandelgla @gingernutt73