5 peth i’w wneud dros Wyliau’r Nadolig

Mae’r Nadolig ar ei ffordd, sy’n golygu gwyliau ysgol gyda’r plant unwaith eto a’r dasg o’u diddanu nes y bydd Siôn Corn yn danfon eu hanrhegion newydd. Yn ffodus, mae yna ddigonedd o bethau i’w gwneud yng Ngogledd-dwyrain Cymru i ddiddanu’r plant a’u cael nhw allan o’r tŷ. Dyma 5 peth i’w gwneud wrth i’r […]

Mae’r Nadolig ar ei ffordd, sy’n golygu gwyliau ysgol gyda’r plant unwaith eto a’r dasg o’u diddanu nes y bydd Siôn Corn yn danfon eu hanrhegion newydd. Yn ffodus, mae yna ddigonedd o bethau i’w gwneud yng Ngogledd-dwyrain Cymru i ddiddanu’r plant a’u cael nhw allan o’r tŷ. Dyma 5 peth i’w gwneud wrth i’r Nadolig agosáu i gadw eich corachod bach chi’n hapus.

Gwnewch rywbeth am ddim

 

“Mae pethau gorau bywyd i’w cael am ddim” yn ôl pob sôn. Rydym ni’n cytuno’n llwyr â hyn a’r peth gorau i’w wneud am ddim yng Ngogledd-ddwyrain Cymru yw mynd allan i archwilio’r dirwedd anhygoel sydd gennym ni ar ein stepen ddrws. P’un ai fyddwch chi’n dewis archwilio Bryniau Clwyd, Mynyddoedd y Berwyn neu deithiau Dyffryn Dyfrdwy, rydych chi’n siŵr o ganfod golygfa anhygoel, a chofiwch fynd â’ch ci gyda chi, gan fod y rhain yn olygfeydd y gall pawb eu mwynhau (ond cofiwch ei gadw ar dennyn bob amser).

Os ydych chi’n gwirioni cymaint â ni ar yr hydref, bydd rhaid i chi ymweld â’n 5 prif le i weld dail a choed yr hydref…gan gofio mynd â’ch camera i gadw cofnod o’r holl atgofion.

Dog Walking on Moel Famau
Cerdded y ci ar Moel Famau

Ar eich beic!

 

Efallai fod beiciau newydd ar y gorwel mewn rhai cartrefi, felly dyma’r amser perffaith i fynd am antur a chael y defnydd olaf o’r hen feiciau yna. Dewiswch un o’r llwybrau y mae Ride North Wales yn eu hyrwyddo sy’n teithio drwy ein tirwedd, a gwibiwch drwy’r hydref i gael hwb bach o adrenalin. I gael profiad o feicio llwybrau, y lle gorau i fynd yw Canolfan One Planet Adventure  yn Llandegla. Gyda nifer o lwybrau sy’n addas i bob oed a gallu, rydych chi’n siŵr o deimlo’ch bod yn teithio 100mya drwy Goedwig Llandegla, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod mewn amgylchedd diogel. Ar ôl eich anturiaethau ar hyd y llwybrau, beth am fynd am baned o de neu siocled poeth yn y Ganolfan i ymlacio rhyw fymryn. Os ydych chi’n awyddus i wella eich sgiliau ar feic BMX, yna ewch draw i Marsh Tracks ar arfordir Y Rhyl, sef canolfan feicio sydd wedi ennill gwobrau lle cewch chi 1.3km o drac beicio cylchffordd gaeedig a thrac rasio BMX o safon genedlaethol, gyda giât gychwyn Bensink (sydd union yr un fath â’r un ar drac BMX Gemau Olympaidd 2012), yn ogystal â neidiau ac ysgafellau. Yn ychwanegol at y ddau drac hyn, mae trydydd trac beicio mynydd newydd sbon wedi agor yn ddiweddar er mwyn galluogi pobl i brofi eu sgiliau!

Pethau i’w gwneud dan do

 

Gwyddom na all y tywydd fod o’ch plaid bob tro… yn enwedig yng Nghymru! Ond peidiwch â phoeni, mae yna nifer o bethau i’w gwneud dan do hefyd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Y lle i fynd i gael profiad cynhwysfawr yw parc Dôl yr Eryrod yn Wrecsam, lle gallwch chi fwyta, siopa a chwarae mewn un lleoliad. Gydag amrywiaeth o siopau, sinema Odeon a man Bowlio Deg, fe allwch chi dreulio’r diwrnod cyfan yma wrth ymweld â thref fwyaf Gogledd-ddwyrain Cymru. Neu os hoffech chi weld ein tirwedd arbennig ond bod angen i chi ymochel rhag y glaw, beth am ddal trên treftadaeth o Reilffordd Llangollen a chymryd arnoch eich bod ar eich ffordd i Hogwarts (i ddilynwyr Harry Potter!).  Gyda digwyddiadau Nadoligaidd gwych yn cael eu cynnal yno, mae Rheilffordd Llangollen wir yn brofiad hudol y gallwch ei fwynhau boed law neu hindda.

Trailing through Llandegla Forest
Rhwygo trwy Coedwig Llandegla

Gwneud y gorau o’n hafonydd

 

Dyma un i’r teulu sy’n hoffi anturiaethau gwyllt. Profwch wefr a ias caiacio drwy Afon Dyfrdwy – mae cael eich trochi gan ddyfroedd naturiol Cymreig ein hafon yn siŵr o’ch deffro chi. Gyda White Water Active, gallwch gynllunio’r diwrnod allan epig yna neu brynu tocynnau anrheg fyddai’n gwneud anrheg Nadolig delfrydol i rywun eleni.  Gyda llu o weithgareddau fel Cerdded Ceunentydd drwy Ddyffryn Dyfrdwy, rafftio glastwr drwy’r dref neu hyd yn oed fynd i saethu peli paent, rydych chi’n siŵr o gael diwrnod i’r brenin yn ein cornel fach ni o Ogledd Cymru. Os hoffech chi rywbeth ychydig yn wahanol, beth am roi cynnig ar Rwyf-fyrddio ar y gamlas yn Llangollen a chael cyfle i weld y golygfeydd prydferth o safbwynt gwahanol.

Llonyddwch llwyr

 

Os ydych chi’n teimlo fel cael seibiant bach oddi wrth y plant, pwysau a straen bob dydd neu’r holl siopa Nadolig, yna diwrnod yn y sba yw’r peth i chi. Yn ffodus, fydd dim rhaid i chi deithio ymhell i ymlacio’n llwyr gan fod nifer o leoliadau sba yng Ngogledd-ddwyrain Cymru y mae’n bosib nad ydych chi wedi clywed amdanyn nhw. Mae sba trawiadol Castell Rhuthun yn brofiad unigryw gan ei fod wedi’i leoli o fewn y ffos o amgylch y castell. Neu os byddai’n well gennych chi brofiad mwy cynhwysol, beth am drefnu diwrnod yn Sba Llangollen yng Ngwesty’r Wild Pheasant. O’r funud y cyrhaeddwch chi, fe welwch chi fod hwn yn lle i ymlacio’n llwyr wrth i chi anadlu’r arogleuon hyfryd fydd yn eich cyfareddu. Mae Sba Llangollen yn cynnig triniaethau harddwch a holistaidd ar y cyd â’r technegau mwyaf moethus i adfer, adfywio a rhoi maeth i’ch wyneb a’ch corff.