“Keep close to Nature’s heart… and break clear away, once in awhile, and climb a mountain or spend a week in the woods. Wash your spirit clean.”
Mae’r dyfyniad hwn yn disgrifio Cymru i’r dim. Dyma wlad ar gyfer lles, lle gallwch ddianc o strydoedd prysur unrhyw ddinas, a gwell na hynny, gallwch ddianc oddi wrth eich ffôn o fewn ein coedwigoedd (gan nad oes signal yn bodoli yno). Ymgollwch yn nhawelwch coedwigoedd Gogledd Ddwyrain Cymru ac ychydig o bethau i’w cofio; cofiwch gadw cŵn ar dennyn (waeth pa mor gyfeillgar neu fach ydyn nhw) a chofiwch fynd â’ch sbwriel adref gyda chi.
Coedwig Melin y Nant
Os ydych chi eisiau darganfod bywyd gwyllt lleol a hanes Dyffryn Clywedog neu fynd am dro ysgogol drwy’r coed a chefn gwlad ysblennydd, mae’r hen felin flawd hon yn lleoliad gwych i gerddwyr neu deuluoedd i ymweld.
Mae’r Ganolfan Ymwelwyr wedi’i lleoli mewn coetir hynafol prydferth ar ymyl afon hyfryd Clywedog. Ym Melin y Nant mae Llwybr Dyffryn Clywedog sy’n mynd am 6.5 milltir trwy gefn gwlad godidog Pyllau Plwm y Mwynglawdd, trwy Goed Nant a Choed Plas Power, lle gellir gweld Clawdd Offa, heibio i Weithfeydd Haearn a Chanolfan Dreftadaeth y Bers, ystâd drawiadol Erddig ac ymlaen i Felin y Brenin yn Wrecsam.
Coedwig Clocaenog
Mae Coedwig Clocaenog wedi’i leoli yng nghalon Mynydd Hiraethog ac yn gorchuddio 6000 hectar (15000 erw). Mae’n gartref i un o boblogaethau olaf y wiwer goch yng Nghymru ac yn ardal allweddol ar gyfer y grugiar ddu sy’n gynyddol brin, ac ar gyfer nifer o rywogaethau o adar magu ysglyfaethus. Mae’r milltiroedd o ffyrdd coedwig distaw a’r niferoedd o feysydd parcio yn gwneud y goedwig hon yn lleoliad perffaith i deuluoedd feicio, cerdded neu farchogaeth.
Mae’r goedwig eang hon yn Sir Ddinbych yn cynnwys milltiroedd o lwybrau cerdded a beicio i roi cynnig arnynt. Mae’n cynnwys 100km2 ac wedi’i leoli ar ochr ddeheuol Hiraethog, ger Rhuthun. Mae milltiroedd o lwybrau coetir heddychlon, rhostir grug, nentydd a rhaeadrau hardd a digon o fywyd gwyllt i’w weld. Cadwch lygad yn benodol, am y gwiwerod coch, croesbigau, ceffylau gwyllt a’r grugiar ddu prin.
Coedwig Nercwys
Mae Coedwig Nercwys wedi’i leoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ger yr Wyddgrug. Mae’n goetir coniffer sy’n darparu cynefin ardderchog ar gyfer bywyd gwyllt – edrychwch am adar megis bwncathod, dryw eurben a thitw penddu. Mae gan y coetir nifer o nodweddion treftadaeth, yn cynnwys carnedd gladdu o’r Oes Efydd, hen ffermydd, adeiladau mwyngloddio a gwaith chwarel.
Mae digonedd o lwybrau cerdded i’ch cadw yn brysur, megis Cylchdaith Coed Nercwys ac mae’r daith hon yn eich tywys drwy goedwig sy’n llawn o nodweddion treftadaeth, gan gynnwys adfeilion gwaith plwm, olion hen fwthyn bugail a chae â wal o’i amgylch. Mae golygfannau arbennig lle gallwch fwynhau’r golygfeydd. Ar Lwybr Cyswllt Bryn Alun sy’n llwybr llinol i Fryn Alun gyda’r calchbalmant mwyaf ond un yng Nghymru, mae golygfan yno i chi edmygu’r olygfa anhygoel.
Coedwig Moel Famau
Mae Parc Gwledig Moel Famau yng nghalon Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Gan godi i uchder o 554 metr (1818 troedfedd), Moel Famau yw’r copa uchaf yng nghadwyn copaon Bryniau Clwyd. Ar y copa ceir gweddillion Tŵr y Jiwbilî, cofadail eiconig y gellir ei weld o bob cyfeiriad, gyda golygfa anhygoel dros Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
Gallwch gerdded drwy’r goedwig o faes parcio Coedwig Moel Famau i gopa Moel Famau. Mae yna nifer o lwybrau cerdded eraill yn dechrau o’r lleoliad hwn, sy’n mynd ar hyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.
Parc Gwledig Loggerheads
Mae Parc Gwledig Loggerheads yn borth i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Mae’r parc gwledig islaw clogwyni calch trawiadol Dyffryn Alun lle mae’r afon yn mynd drwy geunentydd coediog serth a glaswelltir agored a diarffordd. Mae’r clogwyni calchfaen hardd wedi ysbrydoli artistiaid ac wedi denu nifer o ymwelwyr am genedlaethau.
Mae dwy gylchdaith fer o fewn y parc a rhwydwaith o lwybrau troed ag arwyddbyst yn cychwyn ynddo. Mae dau o’r llwybrau cerdded hyn ar dir sy’n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.