2021 yw Blwyddyn yr Awyr Agored Croeso Cymru. Mae hynny cystal â dim, mewn gwirionedd, gan ein bod yn cael ein traed danom yn dilyn pandemig, a bod cymdeithasu yn yr awyr agored yn ddewis mwy diogel.

Gall Gogledd Ddwyrain Cymru gynnig gwledd o brofiadau unigryw. Mae’n lle gwych i fod yn egnïol, i’r amatur a’r meistri, a gall fod yn lle llai prysur nag Eryri.

Mae cerdded yn weithgaredd hynod boblogaidd ar hyn o bryd, ac rydym wedi ysgrifennu ambell flog ar y pwnc.  Darllenwch mwy, am ein milltiroedd cymunedol neu  Gwyl cerdded Corwen 2021.

Os mai beicio sy’n mynd â’ch bryd, mae rhai o’r cyfleoedd beicio gorau yn y DU i’w canfod yma.  Pam na wnewch chi archwilio Gogledd Ddwyrain Cymru ar ddwy olwyn? Mae’n ffordd gynaliadwy o deithio sy’n caniatáu ichi weld mwy o’r wlad, ac mae’n helpu i leihau tagfeydd, yn well i’r amgylchedd, ac yn ffordd ragorol o gadw’n heini hefyd.

 

Mae gan Sir Ddinbych sawl gem yn ei choron, a gall Bryniau Clwyd a Hiraethog hawlio rhai o’r llwybrau beicio gorau yn y wlad, llwybrau sy’n mynd drwy dirwedd o harddwch eithriadol.   Gellir gweld manylion llwybrau hawdd, cymedrol ac anodd ar Beicio Gogledd Cymru -Beicio Gogledd Cymru | For mountain bikers visiting Wales (ridenorthwales.co.uk), ynghyd â dolenni i ddigwyddiadau a chyfleusterau beicio lleol. Mae’r Gyfres Marathon Beicio Mynydd fel arfer yn ymweld â’r ardal bob blwyddyn, gyda thua 1,300 o feicwyr mynydd yn ateb her Bryniau Clwyd.

Gan ddefnyddio Loggerheads fel y brif fynedfa i Fryniau Clwyd, gallwch reidio ar hyd y llwybrau gwyllt a bywiog, a’r dringfeydd serth, yng nghanol y bryniau llawn grug. Mae Bryniau Clwyd yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ac fel rydym eisoes wedi sôn, rydym yn credu mai ar gefn beic yw’r ffordd orau o archwilio’r golygfeydd trawiadol hyn! Mae’r heriau technegol a’r elltydd, ynghyd â’r amrywiaeth o gyfleusterau sydd ar gael i’ch helpu i ymlacio rhwng pob reid, yn gwneud yr ardal hon yn Ganolfan Ragoriaeth yn y byd seiclo, ac rydych yn siŵr o fod wrth eich bodd.

Mae canolfan Coed Llandegla yn cael ei chydnabod yn un o’r canolfannau beicio mynydd gorau yn y DU, a gellir hurio beiciau a chael hyfforddiant yn y ganolfan, ac y mae yno gaffi a siop arobryn fydd yn bodloni’ch holl anghenion. Yn ystod y gwanwyn, gall bore-godwyr gael cip ar un o adar prinnaf Cymru, y grugiar ddu, yng Nghoed Llandegla drwy gynllun gwylio gan yr RSPB, cyn cael brecwast harti.

Mae Traciau’r Gors yn un arall o asedau beicio Sir Ddinbych; lleoliad cyffrous gyda thrac beicio lôn 1.3km a thrac BMX gyda neidiadau a throadau heriol.  Mae’r trac beicio lôn yn lle gwych i gerdded, rhedeg a beicio (yn cynnwys beicio i’r anabl). Gall oedolion a phlant ddilyn cyrsiau hyfforddi yma, a gellir hurio’r traciau. Os oes gennych awydd newid, beth am roi’r beic o’r neilltu am ychydig a rhoi cynnig ar sesiwn gerdded Nordig – rhywbeth arall sydd ar gael yn Nhraciau’r Gors?

Mae Traciau’r Gors wedi’u lleoli ar Lwybr Rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n cysylltu Gronant, Prestatyn a’r Rhyl gyda llwybr beicio sy’n mynd ar hyd arfordir gogledd Cymru, ac sydd fwy neu lai’n gwbl ddi-draffig. Gellir defnyddio Llwybr Rhif 5 i ymweld â Phwll Brickfields a Gwarchodfeydd Natur Lleol Twyni Gronant, cartref yr unig nythfa môr-wenoliaid bychain sy’n bridio yng Nghymru.  Yn Harbwr y Rhyl hefyd, y drws nesaf i Bont y Ddraig, y bont feicio a cherdded eiconig, y mae Bike Hub, sy’n hurio beiciau ac yn agored 7 diwrnod yr wythnos. Y drws nesaf i’r siop feiciau y mae caffi sy’n gweini ystod o fyrbrydau poeth ac oer, a choffi.

Os yw’n well gennych gael antur ar y dŵr, mae Sir Ddinbych yn gartref i Whitewater Active, un o brif ddarparwyr gweithgareddau awyr agored y DU.  Gallant gynnig gweithgaredd i chi a’ch teulu neu eich tîm. Dewiswch un o’r profiadau amrywiol a niferus sydd ar gael, o Rafftio Dŵr Gwyn i brofiad abseilio 90 troedfedd, o geufadu dŵr gwyn i ddisgyn i un o geunentydd gwyrdd Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Chonwy, gallwch archwilio dros 2,500 o erwau o goedwigoedd, rhostir a llynnoedd gyda golygfeydd o Lyn Brenig, sy’n cael ei reoli gan Ddŵr Cymru. Gyda Chanolfan Ymwelwyr, Caffi, Siop Anrhegion, Arddangosfa Gweilch, Maes Chwarae Antur, Cyfleuster Hurio Beiciau, Beicio Mynydd, Llwybrau Cerdded, Cyfleusterau Hwylio a Physgota, mae digon o ddewis, ac mae’n agored drwy’r flwyddyn gyfan, a dim ond £2.50 yw’r pris i barcio yn y ganolfan ymwelwyr drwy’r dydd.

Felly beth bynnag rydych yn chwilio amdano er mwyn diddanu’r teulu neu i roi ychydig o antur yn eich bywyd, mae digon o ddewis ar gael ar gyfer amrediad eang o oedrannau, galluoedd a diddordebau.

 Blog a ysgrifennwyd gan Adran Dwristiaeth Cyngor Sir Ddinbych, fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfannau 2021.