Mae dau o grwpiau bwyd lleol wedi dod ynghyd i’w gwneud yn haws i chi flasu a phrynu’r amrywiaeth anhygoel o gynnyrch lleol sydd ar garreg ein drws y Nadolig hwn. Mae grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a Chlwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy wedi trefnu marchnadoedd Nadolig Goleuo Bwyd Lleol drwy’r rhanbarth. Bydd gan bob marchnad ei naws unigryw ei hun ond gallwch ddisgwyl cyfuniad da o stondinau bwyd a diod lleol ac arddangosfeydd coginio ynghyd â cherddoriaeth dymhorol, canu carolau, Sion Corn, gorymdeithiau Nadolig, stondinau crefft a llawer mwy …
MAE CRIW LLAWEN O GYNHYCHWYR BWYD A DIOD GORAU’R GOGLEDD WEDI DOD YNGHYD I LEDAENU’R GAIR AM FANTEISION PRYNU’N LLEOL Y NADOLIG HWN.
Pam mae cynhyrchwyr lleol yn credu y dylech brynu’n lleol y Nadolig hwn
- Mae cynnyrch lleol yn lleihau milltiroedd bwyd meddai Rachel o Rachel’s Vegan Cakes, Bwlchgwyn.
- Dywedodd Pip Gale o’r Wine Bar, Llangollen y Gallwch helpu i greu ymdeimlad o gymuned drwy brynu’n lleol.
- Mae Marina o Marina’s Italian Cookery yn Rhuthun yn rhoi’r pwyslais ar y bwyd ei hun Cewch gynnyrch dilys drwy ddefnyddio ryseitiau traddodiadol.
- Dywedodd Mike Ford, ffermwr a sylfaenydd y cwmni cynhyrchu selsig llwyddiannus, Pen-y-Lan Pork yn Wrecsam Byddwch yn cefnogi ffermwyr lleol… ac mae blas gwell ar y bwyd!
- Mae ansawdd a blas cynnyrch lleol yn ddiguro meddai Ferry o Llangollen Brewery.
- Mae Beatriz, sy’n creu blasau Sbaenaidd yn Sabor de Amor, Wrecsam yn credu bod Mae prynu’n lleol yn cadw’r gymuned yn fyw.
- Drwy brynu’n lleol, byddwch yn cefnogi teuluoedd lleol yw neges Anna o Chilly Cow Ice Cream – cwmni sydd wedi ennill gwobrau am yr hufen iâ y mae’n ei gynhyrchu ar y fferm deuluol yn Llanychan, Rhuthun.
- Drwy brynu’n lleol, byddwch yn cefnogi busnesau a theuluoedd lleol meddai Matt o Tyn Dwr Hall, adeilad Gradd II godidog ar gyrion Llangollen lle cynhelir priodasau.
- Yn ôl Jo o Aballu Artisan Chocolates Mae’r ansawdd yn well ac mae’n hwb i’r economi leol.
- Dywedodd Carol o Llanvalley, sy’n cynhyrchu sebon llaeth gafr ym Mroncysyllte y Byddwch yn helpu pobl a ffermwyr lleol i barhau i fasnachu.
- Dywedodd Saisuree o gwmni arloesol Authentic Thai Cuisine, yr Wyddgrug Drwy brynu’n lleol, gallwch arbed arian a lleihau’ch ôl troed carbon.
- Ac yn olaf, ond nid yn lleiaf, dywedodd Margaret o Patchwork Foods, Rhuthun, sydd wedi ennill dros 80 o wobrau bwyd Byddwch yn cefnogi’r gymuned a theuluoedd lleol.
Gyda’r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth Brexit a’r newid yn yr hinsawdd yn y newyddion bob dydd, mae’n anodd iawn dadlau â nhw. Ac os yw’n golygu y bydd eich Nadolig yn fwy blasus nag erioed, does dim rheswm dros beidio â prynu’n lleol.
Dewch draw i gwrdd â’r criw llawen o gynhyrchwyr lleol a rhagor ym marchnadoedd Goleuo Bwydd Lleol yn y Gogledd-ddwyrain:
- Gŵyl Nadolig Llangollen – 24 Tachwedd (1pm-5pm)
- Gŵyl Goleuadau Nadolig yr Wyddgrug – 27 Tachwedd (3pm – 7pm)
- Marchnad Nadolig Dinbych – 30 Tachwedd (12-8pm)
- Marchnad Nadolig Rhuthun – 1 Rhagfyr (10-4pm)
- Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam – 6 Rhagfyr (12-8pm)